Mae Annog Cyf yn chwaer gwmni i Menter Môn Cyf. Esblygodd o gorff a sefydlwyd i weinyddu rhaglenni datblygu gwledig am yn agos at ddau ddegawd; mae ei ddull o weithio wedi ei wreiddio mewn cyflawni prosiectau sy'n ceisio cefnogi'r economi wledig.
Mae Annog Cyf yn cyflawni rhaglenni gwaith ar ran sefydliadau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus ledled gogledd Cymru. Gyda thros 40 o aelodau o staff, mae gan y cwmni gyfuniad unigryw o sgiliau a phrofiad, ac mae mewn lle da i weithio gyda chymunedau gwledig.
Annog Cyf is a sister company to Menter Môn Cyf. Having evolved from an organisation established to administer rural development programmes for almost two decades; its approach is rooted in delivering projects aimed at supporting the rural economy.
Annog Cyf delivers work programmes on behalf of private, voluntary and public organisation across North Wales. With over 40 members of staff the company has a unique blend of skills and experience and is well suited to working in rural communities.