Smart Gwynedd a Môn

Dod â threfi Smart i Wynedd ac Ynys Môn.

Trosolwg

Mae Smart Gwynedd a Môn yn brosiect a ariennir gan Gyngor Sir Gwynedd ac Ynys Môn a ddarperir gan Menter Môn, sy’n cefnogi adfywio’r stryd fawr trwy gyflwyno technoleg newydd ac annog penderfyniadau ar sail data.

Mae ein partneriaid ar hyn o bryd yn gosod WiFi cymunedol ar strydoedd fawr ar draws Gwynedd a Môn ac mae’r pwyntiau mynediad hyn yn casglu data dienw sy’n cael ei arddangos ar lwyfan data ffynhonnell agored y prosiect, Patrwm.io.

Mae’r data hwn yn cynnwys ffigurau nifer yr ymwelwyr fesul diwrnod ac awr, ynghyd ag amser preswylio unrhyw un sydd yn ardal y rhwydwaith am fwy na 5 munud. Cesglir data demograffig hefyd ar y rhai sy’n mewngofnodi i’r system WiFi ac yn gwneud arolwg byr. Yna caiff yr holl wybodaeth hon ei throi’n graffiau hawdd eu deall, sydd ar gael i unrhyw un eu lawrlwytho.

Gellir defnyddio’r data i lywio penderfyniadau busnes ac i fesur effaith unrhyw ymyriadau neu ddigwyddiadau yn y dref, ac i gymharu tueddiadau ar draws trefi.

Ochr yn ochr â WiFi cymunedol, mae ein partneriaid yn gosod rhwydweithiau Lorawan gyda synwyryddion rhyngrwyd pethau i fonitro ansawdd aer, lleithder a thymheredd ar draws ein Trefi Smart. Gellir defnyddio synwyryddion ar draws trefi i fesur unrhyw beth o ddefnyddio biniau i leoedd parcio.

Nod arall y prosiect yw archwilio ac annog y defnydd o dechnolegau arloesol eraill megis hybiau digidol ac arwyddion a llwyfannau digidol amrywiol i helpu i ddatrys problemau’r stryd fawr.

 

Hyd yma, mae ein trefi smart yn cynnwys Aberdaron, Bala, Beddgelert, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Llan Ffestiniog, Llanberis, Llangefni, Penygroes, Porthmadog a Phwllheli.

Y trefi nesaf i’w hychwanegu at y rhwydwaith fydd:

Abermaw, Abersoch, Amlwch, Bangor, Beaumaris, Benllech, Caergybi, Cricieth, Dolgellau, Harlech, Nefyn, Penrhyndeudraeth, Porthaethwy, Rhosneigr and Tywyn.

Unwaith y bydd tref wedi’i hychwanegu at ein rhwydwaith, rydym yn cynnal gweithdy rhagarweiniol i gyflwyno’r technolegau sydd ar gael ac i ddeall ‘pwyntiau poenus’ tref a’u blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Yna byddwn yn cyflwyno cynllun gweithredu i’r dref ac yn trefnu sesiynau dilynol rheolaidd i sicrhau bod trefi yn cymryd perchnogaeth o’u hagenda Smart.

Mae cynllun gweithredu yn cynnwys nodau tymor byr, canolig a hir, a gall ganolbwyntio ar anghenion penodol busnesau fel uwchsgilio digidol i faterion ar draws y dref fel rheoli traffig.

 

Os ydych yn berchennog busnes, grŵp adfywio/cymunedol, neu unrhyw un sydd am wneud gwahaniaeth yn eu tref, cysylltwch â ni a chofrestrwch ar gyfer un o’n gweithdai.

Byddem hefyd wrth ein bodd yn clywed gan fyfyrwyr, penaethiaid technoleg, pobl sy’n hoff o ddata… unrhyw un a hoffai fod yn ‘bencampwr digidol’ eu tref.

Rhestr Bostio tanysgrifiwch i’n rhestr bostio i dderbyn diweddariadau gan y prosiect

https://forms.office.com/r/RAaEUnubAy  – Os hoffech i ni gysylltu â chi’n uniongyrchol llenwch y ffurflen mynegi diddordeb fer hon

https://www.eventbrite.co.uk/organizations/events- Cadwch lygad ar ein Eventbrite am ddigwyddiadau sydd i ddod

Gwybodaeth

Astudiaethau

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=X_UTU0_S3Io&w=560&h=315]

Trefi Smart Cymru – Cisco Meraki

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233