
Cynllun sydd yn peilota, dysgu a rhannu er budd economi Ynys Môn.
Mae Arloesi Môn yn gynllun LEADER sydd yn datblygu a gweithredu cynlluniau ar y cyd gyda’r gymuned o dan y themau canlynol:
- Ynni
- Allanoli gwasanaethau
- Gwasanaethau digidol
- Ychwanegu gwerth at adnoddau
- Datblygu cadwyni cyflenwi
Nod y cynllun yw adnabod a peilota ymatebion arloesol i heriau sydd yn gwynebu Ynys Môn. Os mae nhw yn llwyddo y bwriad yw rhannu arfer da trwy’r Sir ac ymhellach.
Mae’r cynllun yn cael ei arwain gan Grwp Gweithredu Lleol sydd â chynrychiolaeth o’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.