Cronfa ARFOR

Cronfa arbrofol yw’r rhaglen Arfor, sy’n bwriadu creu mwy a gwell swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg a chefnogi twf yr iaith.

Mae Adran Economi Llywodraeth Cymru yn ariannu Cronfa Arloesi Arfor yn y bedair sir ble mae’r iaith Gymraeg gryfaf: Gwynedd, Môn, Ceredigion a Caerfyrddin. Mae cyllid ar gael dros y flwyddyn 2020/2021. Pwrpas y gronfa yw treilau gwahanol ddulliau a phrosiectau sy’n hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes gyda ffocws ar hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg. Rhaid ychwanegu gwerth a chefnogi dulliau newydd ac arloesol. Ni fydd Arfor yn cefnogi prosiectau ble mae grantiau eraill eisioes ar gael i’w cefnogi.

Nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg i ymgeisio am gymorth trwy Arfor.

Mae canllawiau llawn ar ffurf atodiad.

Mae dwy gronfa;

Cronfa Ieithyddol – Cronfa i gefnogi busnesau i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol/ clywedol o fewn eu busnes. Mae’n rhaid i’r holl geisiadau dderbyn asesiad ieithyddol gan Swyddog Menter Iaith Môn.

Canllawiau (pdf)

Cronfa Busnes – Mae’r gronfa hon bellach wedi dod i ben.

Os am ymgeisio cwblhewch y ffurflen gais ynghlwm (Cliciwch yma) a chysyltwch â ni gyda’r manylion isod.

01248 725 700

arfor@mentermon.com

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233