Hwb Hydrogen

Trosolwg

Mae gan Ynys Môn botensial ynni adnewyddadwy uchel. Fel opsiwn amgen i gysylltu efo’r grid trydan a all fod yn gyfyngedig, gall ynni adnewyddadwy cynradd gael ei ddefnyddio i gynhyrchu hydrogen trwy electrolysis. Felly gall yr ‘hydrogen gwyrdd’ yma ryddhau potensial llawn ynni adnewyddadwy. Yn gynyddol mae mwy yn adnabod rôl unigryw hydrogen yn y trosglwyddiad tuag at ddatgarboneiddio ar draws pob sector; ac mewn lleihau llygredd aer. Gall hyn arwain at greu miloedd o swyddi ar draws Cymru, a nifer o’r rheini ar Ynys Môn.

Gwybodaeth

Beth yw Hwb Hydrogen Caergybi?

Dechreuodd y gwaith ar Hwb Hydrogen Caergybi yn 2019 gydag astudiaeth ddichonoldeb i archwilio’r cyfleoedd i gynhyrchu a defnyddio hydrogen ar Ynys Môn. Cafodd Caergybi ei adnabod fel safle ardderchog yn ystod yr archwiliad yma fel safle cynhyrchu am ei fod yn hwb trafnidiaeth brysur sydd yn ddaearyddol agos at ffynhonellau ynni adnewyddadwy.

Y bwriad yw gweithio gydag ystod o gyrff preifat a chyhoeddus er mwyn adeiladu’r hwb gan ddarparu:

  • Hwb cychwynnol i’r gadwyn gyflenwi hydrogen gwyrdd ar gyfer cyfleoedd datblygu i’r economi leol.
  • Darparu platfform ar gyfer cyfleoedd tyfiant a datblygiad o ran cynhyrchu hydrogen gwyrdd o’r cyflenwad eang o ffynhonellau ynni adnewyddadwy ar y môr.
  • Ateb y galw o ran trafnidiaeth ranbarthol a darparu hydrogen gwyrdd i’r sectorau: pŵer, gwres, amaethyddol a diwydiannol.
  • Sefydlu partneriaethau gyda sectorau Cymreig, y DU a rhyngwladol sydd yn arwain yn y sector hydrogen.
  • Diogelu perchnogaeth leol o’r ffynhonell er mwyn cadw’r budd yn yr economi leol.

Partneriaid Prosiect

Bydd llwyddiant y prosiect yn gofyn am gydweithio agos gyda nifer o randdeiliaid. Ein partneriaid craidd yn y prosiect yw Cyngor Sir Ynys Môn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid all gefnogi sgiliau a hyfforddiant gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor; yn ogystal â chwmnïau fel Stena a Delsol er mwyn datblygu marchnad ar gyfer hydrogen.

Gwaith hyd yma

Yn dilyn cyfres o astudiaethau bychain, sicrhawyd cyllid trwy Lywodraeth Cymru i gwblhau arfarniad technegol manwl o’r prosiect. Mae copi o’r grynodeb gweithredol ar gael ar y wefan yma. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bod £4.8 miliwn wedi ei neilltuo er mwyn cefnogi datblygiad Hwb Hydrogen Caergybi.

Dyma’r gwaith cyfredol:

  • Sicrhau caniatad cynllunio ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi ym Mharc Cybi.
  • Cwblhau Achos Busnes Amlinellol er mwyn cefnogi’r cais am gyllid.
  • Sicrhau cysylltiad grid i Hwb Hydrogen Caergybi.
  • Cwblhau awdit sgiliau a hyfforddiant sydd yn cyd-fynd â’r datblygiad.
  • Datblygu model perchnogaeth leol sydd yn sicrhau’r budd cymunedol mwyaf.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am Hwb Hydrogen Caergybi yna cysylltwch gyda hydrogen@mentermon.com

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233