
Mi fydd yr Hwb Menter yn cynnig amrediad o weithgareddau, cefnogaeth a’r gofod i dyfu ar gyfer busnesau newydd neu sy’n bodoli eisoes.
Mae’r Hwb Menter yn raglen 3 blynedd (Hydref 2018 – Hydref 2021) sy’n gweithredu ar draws Gogledd Orllewin Cymru (Môn, Gwynedd, Conwy a Dinbych).
Mae Menter Môn yn gweithredu’r rhaglen mewn partneriaeth gyda M-SParc.
Mi fydd yr Hwb Menter yn darparu entrepreneuriaid efo pecyn o gymorth wedi’i deilwra I’w anghenion a chreu cymuned o unigolion tebyg I rannu syniadau a chynnig anogaeth.
Yn ogystal â dapraru cefnogaeth un I un; byddem yn anelu I ddarparu amrediad o weithgareddau megis siaradwyr gwadd, sesiynau hacio, digwyddiadau pitsio a gweithdai rhyngweithiol.
Mi fydd y brif Hwb wedi’i leoli yn M-SParc, Gaerwen, ond byddem hefyd yn cynnig hybiau lloeren yn Botwnnog, Dolgellau, Cyffordd Llandudno a Ruthin I sicrhau mynediad I’r gwasanaeth ar draws y rhanbarth.
Mae’r rhaglen hwn wedi’i ariannu’n rannol gan yr Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Llywodraeth Cymru.