
Hwb bwyd a diod lleol yw Môn Larder. Mae'n dwyn ynghyd gynhyrchwyr a phroseswyr yn y rhanbarth.
Mae’r hwb yn rhoi pwyslais ar gefnogi a chryfhau cydlyniant o fewn y gadwyn gyflenwi, a hyrwyddo bwyd a diod a gynhyrchir yn y rhanbarth mewn ffordd sy’n eu gwneud yn ddeniadol ar gyfer contractau cyflenwi graddfa fawr. Bydd yr Hwb hefyd yn edrych ar yr anghenion o ran sgiliau yn y gadwyn gyflenwi ac yn edrych ar fuddsoddi mewn system TG addas er mwyn sicrhau cydlyniant wrth gyflenwi.