Rhan bwysig o’r prosiect yw annog y cyhoedd i gymryd rhan, cynyddu ymdeimlad o berchnogaeth a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar fywyd gwyllt ar lannau afonydd ymhlith unigolion / cymunedau. Cyn belled, cynhaliwyd sawl diwrnod ymgysylltu lle cafodd gwirfoddolwyr a phobl eraill sydd â diddordeb brofiad o’r gwaith a gyflawnwyd gan y prosiect.

Rhoddwyd gwybodaeth a chyflwyniadau ymarferol i grŵp o fyfyrwyr o goleg Glynllifon, a gafodd ddiwrnod hyfforddiant rafft, gydag ymweliad maes â safle Cors Ddyga. Roeddent yn gallu gweld safleoedd monitro drostynt eu hunain, a dysgu am bwysigrwydd y prosiect o ran bywyd gwyllt cynhenid.

Mae’r prosiect wedi rhoi cyflwyniadau i amrywiaeth o sefydliadau, o glwb dros 50 oed Llangaffo i Afancod (Beavers) Llangefni. Rhoddwyd trosolwg o nod y prosiect i’r clwb dros 50 oed, a dangoswyd arwyddion maes a gasglwyd oddi ar ein rafftiau neu o’u cylch. Roedd yr arwyddion maes yn cynnwys olion safle bwydo Llygoden y Dŵr, toiledau llygoden y dŵr a baw Dyfrgwn.

 

 

“Heno, rhoddodd Gareth gyflwyniad diddorol/addysgiadol iawn a fwynhawyd gan bawb yng Nghlwb dros 50 oed Llangaffo ar Lygod y Dŵr, Dyfrgwn a Mincod – diolch yn fawr Gareth” – Dennis Owen

 

 

 

 

Cymerodd yr Afancod ran mewn digwyddiad 2 ddiwrnod. Y nod oedd addysgu ac ennyn diddordeb cynulleidfa iau yng ngwaith y prosiect. Gweithdy ditectif bywyd gwyllt oedd Diwrnod 1, lle dangoswyd lluniau a thystiolaeth o fywyd gwyllt afon iddynt ac addysgwyd am yr arwyddion maes mewn amgylchedd diddorol. I ddilyn, cafwyd taith ar hyd Afon Cefni ar ddiwrnod 2, lle cafodd yr Afancod gyfle i ddefnyddio’r wybodaeth a ddysgwyd ganddynt mewn amgylchedd ymarferol, yn chwilio am arwyddion maes a chael gweld un o’r rafftiau monitro bywyd gwyllt.

“Diolch, dywedodd fy mab mai hon oedd un o’i hoff deithiau erioed ac roedd wrth ei fodd yn dweud wrthym am yr holl pŵ a baw!” – Rhiant