Mae twf ynni llif llanw wedi cael hwb yr wythnos hon gyda chyhoeddi lansiad Tanfor ar Ddiwrnod Cefnfor y Byd (8fed o Fehefin). Wedi ei arwain gan Menter Môn – nod y prosiect amgylcheddol yw cefnogi datblygiad diogel ynni llanw ym marth Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn.

Mae Tanfor yn parhau’r gwaith arloesol oedd yn cael ei gyflawni yn flaenorol dan faner Prosiect Ymchwil a Nodweddu Morol (MCRP) a bydd yn cydbwyso ehangu cynlluniau ynni gwyrdd gyda gwarchod bywyd natur morol.

Gan weithio gyda thîm o arbenigwyr, mae’r prosiect yn datblygu Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol (EMMP) i warchod bywyd gwyllt lleol wrth i Morlais esblygu. Mae gwaith arloesol arall yn cynnwys defnyddio paneli solar bach wedi’u gosod ar adar môr i bweru rhannu data gyda systemau ar y tir a chofnodi’r cyfarfyddiad cyntaf o ddolffiniaid yn yr ardal gan ddefnyddio AI a chyfuniad o dechnolegau monitro.

Dywedodd Sarah Livett, arweinydd y prosiect: “Mae lansio Tanfor yn nodi’r cam nesaf pwysig yn ein gwaith o ddiogelu adar a mamaliaid morol wrth i ni symud yn agosach at allu gosod tyrbinau ym mharth Morlais. Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma, gan gynnwys torri tir newydd gyda sawl darn o waith diolch i’n tîm o arbenigwyr diwydiant, academyddion a phartneriaid busnes.

“Yr hyn sy’n gwneud Tanfor, a’r MCRP cyn hynny, yn unigryw yw y bydd ein  canfyddiadau ni i gyd yn cael eu cynnwys ar Gyfnewidfa Data Morol (MDE) Ystad y Goron. Mae’r ymrwymiad yma i rannu data yn golygu bod ein gwaith nid yn unig yn cefnogi Morlais ond hefyd yn hybu twf ynni llif llanw ar draws y byd.”

Mae Tanfor a Morlais yn rhan o bortffolio o brosiectau ynni Menter Môn.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn. “Rydyn ni’n falch iawn o Morlais a’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni drwy’r gwaith ymchwil. Heb os rydyn ni’n rhoi Ynys Môn a gogledd Cymru ar y map gyda’r dechnoleg sydd ar waith yma.

“Mae’n holl bwysig i ni ein bod yn creu’r cyfleoedd hyn yn lleol, ac yn dod â swyddi arbenigol o safon i’r ardal – mae’n rhan greiddiol o’n gweledigaeth. Trwy brosiectau fel hyn hefydd gallwn wneud y gorau o’r cyfleusterau ymchwil academaidd gwych sydd ar gael ar ein stepen drws ym Mhrifysgol Bangor.”

Gyda chefnogaeth Tanfor, mae disgwyl i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod ym mharth Morlais o 2027. Dyma’r cynllun ynni llanw mwyaf sydd wedi’i ganiatáu yn Ewrop ac unwaith y bydd yn gweithredu yn llawn bydd ganddo gapasiti i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan carbon isel glân o ynni’r llanw.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233