Cefndir prosiect Dark Sky Menter Môn, Argo Navis

Yn 2016 a 17 gweithiodd Menter Môn gyda busnesau twristiaeth Ynys Môn i hyrwyddo cyfleodd Awyr Dywyll a arweinwyd at ffurfio Rhwydwaith Awyr Dywyll Môn.

Fel rhan o’r fenter hon trefnwyd digwyddiad busnes i ddysgu am Awyr Dywyll ac i rannu gwybodaeth am ddefnyddio’r wybodaeth honno i ddenu ymwelwyr newydd i Ynys Môn, hefyd fe drefnwyd dau ddigwyddiadau cyhoeddus, Digyddiad Hirddydd yr Haf, yn syllu ar yr haul ar Faes Sioe Amaethyddol Môn a phrofiad Burddydd y Gaeaf yn Tyddyn Môn.

Arweiniodd y profiadau hyn at rannu gwybodaeth ag ardaloedd eraill yr UE a pheilot Argo Navis – Dilyn y Sêr.

ARGO NAVIS – CANLYN Y SÊR – PROSIECT TRAWSWLADOL LEADER

Yn ystod cynhadledd LINC a gynhaliwyd yn Y Ffindir yn 2018 (y diben oedd rhyngweithio gyda gwledydd eraill yr UE a hyrwyddo cydweithredu trawswladol), cyfarfu Menter Môn a chynrychiolwyr Grŵp Gweithredu Lleol Ynys Môn gyda chynrychiolwyr o Lithwania ac Awstria, a arweiniodd at ymweliadau cyfnewid gyda’r ddwy wlad. Ymwelodd dau aelod o staff a dau fusnes o Ynys Môn â Lithwania yn 2018, ac ymwelodd dau aelod o staff, un o Fôn ac un o Wynedd, ag Awstria yn 2019, a bu cynrychiolwyr o Lithwania ac Awstria yn ymweld ag Ynys Môn a Gwynedd yn 2019.

Yn 2019 hefyd, yn ystod ymweliad prosiect ag Awstria, fe wnaethom ni gyfarfod â dirprwyaeth o Estonia ac roeddem yn falch o gael croesawu partner newydd i’n prosiect Argo Navis.

Yn ystod yr ymweliadau pwysig hyn, gwelwyd dealltwriaeth gynyddol o lefel y datblygiad ym mhob ardal ac mewn sectorau penodol, ac roedd hi’n amlwg bod cyfle i ddysgu gan ein gilydd.  Penderfynwyd ymweld â phob ardal, a Menter Môn oedd y corff arweiniol, gyda’r nod o ddatblygu prosiect a fyddai’n gysylltiedig ag Awyr Dywyll a’r cyfleoedd y byddai hynny’n eu dwyn i bob ardal.

Daeth yn glir bod pob ardal yn wynebu materion tebyg:

  • Colli pobl ifanc
  • Dirywiad mewn twristiaeth o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd,
  • Angen i ystyried marchnadoedd newydd sy’n ymddangos,
  • Natur wledig a thir heriol

Felly, canolbwyntiodd pob ardal ar y maes yr oeddent yn dymuno ei harchwilio a’i datblygu:

Mae Lithwania yn canolbwyntio ar ddatblygu:

  • Diwydiannau cartref ym maes bwyd a chrefft
  • Mentrau datblygu cymunedol, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc
  • Creu a marchnata llwybr clwstwr o fusnesau ac atyniadau naturiol gyda’r nod o becynnu a gwerthu profiadau i ymwelwyr

Mae Awstria yn canolbwyntio ar fentrau sy’n helpu i fynd i’r afael â:

  • Newid yn yr hinsawdd a thwristiaeth
  • Mewnfuddsoddiad (seilwaith)
  • Cadw pobl ifanc trwy gyfrwng prosiect ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ddigidol

Mae’r angen i ddatblygu, gwella ac ychwanegu gwerth i’w pwynt gwerthu unigryw yn gyffredin ymhlith y bedair ardal, ac wrth gwrs, maent oll yn gysylltiedig ar lefel fyd-eang gan yr Awyr Dywyll.

Mae Ynys Môn a Gwynedd wedi peilota mentrau Awyr Dywyll a buont yn llwyddiannus yn y ddwy ardal, fodd bynnag, ceir angen pellach i ddatblygu a pheilota gweithgareddau ychwanegol sy’n gwella ac sy’n ychwanegu gwerth i’r hyn y gall pob ardal ei chynnig.

Ym mis Medi 2020, cymeradwywyd Prosiect ar y Cyd rhwng Cymru (Ynys Môn a Gwynedd), Lithwania, Awstria ac Estonia a oedd yn seiliedig ar Thema Awyr Dywyll, newid yn yr hinsawdd, digidol, gwyddoniaeth, twristiaeth a busnes.

Cytunwyd y bydd ymrwymiad i weithio yn unol â’r thema hon yn galluogi pob ardal i ddarparu eu cryfderau eu hunain trwy gyfrwng gwahanol weithgareddau, ond gan gyfrannu at thema gyffredinol Awyr Dywyll.  Bydd hyn yn galluogi pob partner i rannu a dysgu o amrywiaeth o wahanol weithgarwch sy’n cynnig manteision cadarnhaol i bob rhanbarth.

Bydd y peilot yn darparu’r canlynol:

  • Bydd pob ardal yn trefnu sesiwn i godi ymwybyddiaeth o Awyr Dywyll a llygredd golau,
  • Bydd pob ardal yn sefydlu Academi Awyr Dywyll

Bydd Ynys Môn yn ystyried mentrau er mwyn gweithio gyda busnesau lleol i feithrin eu gwybodaeth am Awyr Dywyll, yr amgylchedd naturiol a sut y gallant ddefnyddio hwn er mwyn cynyddu busnes.  Yn ogystal, darparu calendr o ddigwyddiadau a fydd yn annog ymwelwyr i ymweld ag ardaloedd ‘Awyr Dywyll’ mewndirol, a bydd yn gweithio gyda chlwstwr o fusnesau/mentrau cymdeithasol yn Ne-Orllewin yr ynys (Niwbwrch ac ati) ac yn y Gogledd-Ddwyrain, Caergybi i Foelfre.  (yn gysylltiedig gyda Ffordd Cymru)

Bydd Academi Awyr Dywyll Ynys Môn yn gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc er mwyn dysgu a rhannu gwybodaeth gydag eraill am bwysigrwydd Awyr Dywyll a ffyrdd y gellir lliniaru’r newid yn yr hinsawdd gymaint ag y bo modd.

Bydd Gwynedd yn gweithio gydag Ynys Môn ar weithgarwch hyrwyddo a dysgu ar y cyd, gan gynnwys ysgolion a busnesau lleol.  Mae rhywfaint o waith eisoes wedi cael ei wneud, wrth arddangos byrddau poster o blanedau mewn rhai cymunedau, gan weithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ynghylch codi ymwybyddiaeth a datrysiadau digidol ym maes ffermio.  Bydd y profiad hwn yn caniatáu mentrau pellach o fewn y sectorau ffermio, realiti rhithwir, a bwyd, yn enwedig cynhyrchu bwyd, y maent oll yn gysylltiedig ag Awyr Dywyll.  Bydd Gwynedd yn annog busnesau sydd eisoes yn gweithio ar beilot Gwyliau Araf i ymgysylltu gyda’r prosiect, gan ychwanegu gwerth i’r hyn y maent yn ei gynnig eisoes trwy ddefnyddio Awyr Dywyll fel adnodd er mwyn marchnata cynnyrch.

Bydd Awstria yn gweithio gyda’i phobl ifanc i ymgysylltu gyda gwyddoniaeth, a bydd yn ceisio adeiladu nifer (i’w gadarnhau) o delesgopau a fydd yn cael eu galluogi gan y We.  Pan fyddant yn eu lle, gellir amserlennu’r rhain trwy wefan i dynnu llun astronomegol gan aelodau’r cyhoedd, a chyfrannu at ddefnyddio Awyr Dywyll fel ffordd o annog twristiaeth yn y rhanbarth hon o Awstria.  Yn ogystal, bydd Awstria yn Cysylltu gyda mewnfuddsoddiad trwy geisio sicrhau rhyngweithio gyda darpar bartneriaid masnachol/diwydiant y gallent gael budd o weithgarwch awyr dywyll (sector optegol ac ati)

Mae gan Lithwania ei Harsyllfa ei hun https://www.itinari.com/take-a-look-intothe-lithuanian-sky-at-mol-tai-astronomical-observatory-3pf3, fodd bynnag, mae’n addysgol iawn ac yn eiddo i’r Brifysgol yn Vilnius.  Felly, bydd LAG Utenos yn ceisio Arddangos a hyrwyddo’r Awyr Dywyll trwy ddefnyddio eu cnyciau hanesyddol er mwyn annog cymunedau i drefnu “Gwyliau Gwylio’r Sêr” a fydd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd a chrefftau lleol – a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol byw ac annog twf ym maes twristiaeth a fydd yn gysylltiedig gyda hyrwyddo Awyr Dywyll.

Bydd Gogledd-Orllewin Estonia yn darparu nifer o weithgareddau cysylltiedig:

  • Gwyddoniaeth/addysg – Mae arsyllfa newydd y rhanbarth yn cynnig cyfle da i boblogeiddio gwyddoniaeth ymhlith pobl ifanc yn y rhanbarth. Cynhelir darlithoedd ac ymweliadau â’r arsyllfa yn ystod y prosiect.
  • Twristiaeth/marchnata lleol – yng ngogledd-orllewin Estonia fel ardal wledig, ceir cyfleoedd gwych i fwynhau’r awyr dywyll ar y tir ac yn y dŵr. Mae’r awyr dywyll yn golygu bod modd cynnig gwasanaethau cyffrous, gan ymestyn y tymor twristiaeth i breswylwyr ac ymwelwyr yr ardal.  Teithiau rafft ysgafn, teithiau llusern, sinema gyda’r hwyr a theithiau eraill ar lwybrau cerdded pan fydd hi’n dywyll ac ati yn cael eu cyfuno gennym dan un to marchnata.
  • Bwyd lleol – mae’r bwyd o ogledd-orllewin Estonia yn fwyd blasus ac o ansawdd uchel, ond nid yw’n adnabyddus iawn. Byddwn yn cyflwyno sêr bwyd Gogledd-orllewin Estonia ar y teledu ac ar gyfryngau cymdeithasol gyda helpu sêr coginio a sêr eraill y rhanbarth.

http://www.utenosvvg.lt/star/

https://www.facebook.com/urvvg

NODAU ARGO NAVIS:

 

Nod y prosiect yw cyflawni’r Amcanion Strategol canlynol:

SOI – sicrhau gwerth economaidd uwch i weithredwyr lleol sy’n gysylltiedig gyda llwybr yr arfordir – trwy gyfrwng gweithgarwch marchnata a chyfeirio ar y cyd – trwy gysylltu mentrau Awyr Dywyll gyda’r arfordir a’i atyniadau amgylcheddol a hanesyddol, gyda’r cyfleoedd i sicrhau twf economaidd ar gyfer ardaloedd mewndirol yn yr holl ardaloedd partner,

SO2 – Datblygu cyfleoedd busnes newydd a rhagor ohonynt i bobl leol trwy gyfrwng arallgyfeirio – ychwanegu gwerth i weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r tywydd megis sgïo, i wyliau Gwylio’r Sêr a digwyddiadau,

SO3 – Meithrin mwy o gyfranogiad a manteisio ar farchnadoedd treftadaeth a thwristiaeth sy’n bodoli eisoes mewn ardaloedd ynysoedd canolog – trwy gysylltu gyda a chreu dehongliad Awyr Dywyll o ansawdd uchel sy’n gallu cynnig budd i bob sector, o Wely a Brecwast i fwyd a gweithgareddau,

SO4 – Sicrhau mwy o gyfranogiad mewn marchnadoedd twristiaeth yn ystod yr adeg dawel o’r flwyddyn wrth i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes gydweithio gyda chymuned o ddiddordeb – trwy greu cynnwys Awyr Dywyll tymhorol da a thargedu’r demograffig cywir er mwyn annog ymweliadau yn ystod yr adeg dawel o’r flwyddyn gydag ardaloedd o arwyddocâd hanesyddol ac amgylcheddol.

SO5 – Cynyddu gweithgarwch ymgysylltu gyda chyfranogiad gan a budd i fusnesau twristiaeth trwy ychwanegu gwerth i gymwysiadau digidol sy’n bodoli eisoes a chreu rhai newydd – trwy gyflwyno technolegau digidol newydd e.e.  telesgopau cyhoeddus sy’n gysylltiedig gyda Gwe-gamerâu,

SO8 – Sicrhau bod holl ieithoedd y partneriaid yn cael eu clywed a’u gweld yn y gymuned a’r gweithle – trwy baratoi cynnwys amlieithog ar gyfer y prosiect hwn ac annog y gymuned i wneud defnydd o’r ieithoedd hyn wrth ddelio gyda phobl leol ac ymwelwyr â’r ardal o ddydd i ddydd,

SO9 – Cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer entrepreneuriaeth newydd a dynameg cyflenwyr a phrosesu lleol gwerth ychwanegol yn y sectorau bwyd a chrefft – trwy rannu a dysgu gan yr holl bartneriaid,

SO10 – Datblygu’r agenda bwyd artisan, gan gysylltu’n benodol gydag ychwanegu gwerth i gynnyrch crai a bwydydd arbenigol sy’n targedu gweithio gydag entrepreneuriaid sy’n fenywod a gweithio gyda charfan wedi’u hallgáu yn gymdeithasol – yn y sector bwyd a’r sector marchnadoedd datblygol,

SO11 – Bwrw ymlaen gyda datblygiad cynhyrchion sy’n ychwanegu gwerth i economïau partneriaid trwy arallgyfeirio dewisiadau cynhyrchion dan agenda Awyr Dywyll a darparu estyniad i farchnadoedd estynedig,

SO12 – Darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc sy’n sicrhau cyflawniad uchel yn eu sir enedigol – trwy gynnig cyfleoedd gweithio o bell sy’n gysylltiedig â chymwysiadau digidol Awyr dywyll,

 

Cynhadledd Argo Navis – Dilynwch y Sêr (Hydref 2021)

Dr John Barantine

 

Portia Jones

 

Allan Trow

 

Gerhard Hohenwarter

 

Dani Robertson

 

Katie King

 

Dafydd Wyn Morgan

 

Saulius Lovčikas

 

Professor Chris Lintott

 

Alun M Owen

 

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233