Dros gyfnod o 25 mlynedd a mwy, mae Menter Môn wedi cydweithio â busnesau, cymunedau, y sector gyhoeddus ac unigolion er mwyn cyflawni prosiectau ystyrlon ac arloesol.
Wrth ystyried persbectif tymor hir yn y gymuned a darparu atebion twf cynaliadwy mae’r Fenter yn creu ac yn cynnyddu cyfleoedd ar draws pum prif sector:

CADWRAETH A’R AMGYLCHEDD
CONSERVATION AND ENVIRONMENT

BWYD ACAMAETH
AGRICULTURE AND FOOD

CYMUNEDAULLEWYRCHUS
PROSPEROUS COMMUNITIES

YNNIADNEWYDDADWY
RENEWABLEENERGY

TECHNOLEGA BUSNES
TECHNOLOGY AND BUSINESS

Cadwraeth a’r Amgylchedd
Mae gan Menter Môn brofiad helaeth mewn gwrachod cynefinoedd naturiol a rhywogaethau brodorol. Mae ein partneriaethau gyda chymunedau yn annog perchnogaeth leol, yn cryfhau perthynas pobl a’u hamgylchedd lleol, ac yn sicrhau buddion iechyd i’r gymuned yn ogystal â buddion cadwraeth i’r amgylchedd.

Bwyd ac Amaeth
Mae Menter Môn yn falch o gefnogi ffermwyr, pysgotwyr a chynhyrchwyr bwyd gan ddatblygu cadwyni bwyd lleol a rhanbarthol er mwyn ychwanegu gwerth at y cynnyrch. Rydym yn annog arloesedd trwy fabwysiadu dulliau newydd o gynhyrchu bwyd, gan sicrhau bod cynhyrchwyr mor gystadleuol â phosib mewn byd sydd yn newid yn gyflym.

Cymunedau Llewyrchus
Mae budd cymunedol wrth wraidd holl gynlluniau Menter Môn. Rydym yn helpu creu cymunedau llewyrchus gyda’r Gymraeg yn ffynnu, tai ar gael i bobl leol, swyddi o safon uchel i bobl ifanc talentog, a chymunedau sy’n dod ynghyd i orchfygu’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.

Ynni Adnewyddadwy
Mae ein cynlluniau ynni adnewyddadwy yn cyd-fynd â’r gwaith amgylcheddol rydym ni’n ei wneud er mwyn gwarchod y blaned a thaclo newid hinsawdd. Rydym yn gweithio ar greu ynni glan, sicrhau hwb i’r economi leol a rhanbarthol wrth gynnig cyfleoedd i bobl ifanc a buddion i’n cymunedau.

Technoleg a Busnes
Mae Menter Môn yn cefnogi mentergarwch ac yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i bobl sydd am fentro i fyd busnes. Mae arloesedd yn ganolog i’r holl waith rydym ni’n ei wneud. Rydym hefyd yn weithgar mewn meysydd twf o fewn yr economi e.e. technoleg ddigidol, ynni adnewyddadwy, bwyd ac amaeth ac rydym hefyd yn gallu ymgysylltu â rhywdweithiau rhanbarthol.