Os yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi neu gyfleoedd canlynol sy’n cael eu hysbysebu cysylltwch â ni: 01248 725700 / AD-HR@mentermon.com

 

Profiad Gwaith

Lleoliad:   Dyddiad Cau:  

Mae Menter Môn yn falch o gynnig cyfleoedd profiad gwaith i unigolion sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ein gwaith a datblygu eu sgiliau.

Ein gweledigaeth yw datgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n cymunedau. Fel rhan o hyn, rydym yn falch o gefnogi pobl i ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith proffesiynol.

Rydym yn cynnig cyfleoedd ar draws amrywiaeth o feysydd gwaith, gan gynnwys ein portffolios cymuned, economi ac ynni. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i archwilio ein gwefan er mwyn dysgu mwy am ein gweithgareddau a’r meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf iddynt.

Datgan Diddordeb

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer cyfle profiad gwaith yn y dyfodol, cysylltwch gyda ni: AD-HR@mentermon.com

Diolch am eich diddordeb ym Menter Môn. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Hwylusydd Ymgysylltu â’r Gymuned

Lleoliad: Hybrid - Gweithio o adref / Porthmadog neu MSParc   Dyddiad Cau: 5pm 27/09/2026  

Hwylusydd Ymgysylltu â’r Gymuned

 

Lleoliad : Hybrid – Gweithio o adref / Porthmadog neu MSParc

gyda theithio rheolaidd i Dde Gwynedd a’r ardaloedd cyfagos

 

Oriau : 18.5 awr yr wythnos (patrwm gweithio i’w drafod)

Cyflog : £26,475 – £30,888 pro rata

Rydym yn chwilio am Hwylusydd Ymgysylltu Cymunedol brwdfrydig i ymuno â’n tîm a chwarae rhan allweddol wrth ysbrydoli unigolion o bob cefndir i archwilio hunangyflogaeth, datblygu sgiliau entrepreneuraidd a manteisio ar y cymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru.

 

Trwy gynnal gweithdai, mynychu digwyddiadau cymunedol a gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau, byddwch yn annog pobl i ddatblygu a chyfrannu at gymunedau mentrus yn yr ardal. Mae rhagor o wybodaeth am y rôl ar gael isod.

 

Cysylltwch gyda Bethan Fraser-Williams am sgwrs: 01248 725709

 

 

Swydd Ddisgrifiad Ffurflen Gais

Ddogfennau

Canllawiau Sgiliau Iaith
Strwythur Cwmni
Buddion Staff


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233