Beth yw Menter Môn?

Mae Menter Môn yn fenter di elw sydd yn gwireddu cynlluniau ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Mae ganddo Fwrdd Cyfarwyddwyr sydd yn rhoi eu hamser yn wirfoddol er mwyn darparu cyfeiriad strategol i’r cwmni.

Beth mae Menter Môn yn ei wneud?

Mae Menter Môn yn ychwanegu gwerth at adnoddau’r ardal er budd trigolion lleol. Mae’r rhain yn cynnwys yr amgylchedd naturiol ac adeiladol, treftadaeth, iaith, pobl a chynnyrch amaethyddol.

Ydi Menter Môn yn rhan o’r Cyngor Sir?

Na. Sefydlwyd Menter Môn gan Gyngor Sir Ynys Môn yn 1995 ond cafodd ei gofrestru yn gwmni annibynnol yn 1996.

Pwy sydd yn ariannu Menter Môn?

Nid yw’r cwmni yn derbyn arian craidd ac mae’n gorfod ymgeisio neu gystadlu am bob ceiniog.

Ble mae Menter Môn yn gweithredu?

Er yr enw mae Menter Môn yn gwireddu cynlluniau ar draws Gogledd a Gorllewin Cymru. Mae mwyafrif y gweithgaredd ym Môn a Gwynedd.

Sawl person sy’n gweithio i Menter Môn?

Mae nifer y staff yn amrywio o ganlyniad i natur rhaglenni cyllido. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi dros 40 o staff yn ein swyddfeydd yn Llangefni a Porthmadog.

Sut bydd Brexit yn dylanwadu ar Menter Môn?

Sefydlwyd Menter Môn i wireddu rhaglen Ewropeaidd LEADER, sydd wedi ei redeg ers hynny. Mae cyllid Ewropeaidd wedi bod yn ffynhonnell incwm pwysig i Menter Môn, ond mae’r cwmni wedi denu arian o lefydd eraill ac wedi cystadlu ar delerau masnachol. Bydd Brexit yn dod â newid ac mae Menter Môn mewn sefyllfa i ymateb i’r heriau gyda chreadigrwydd a bywiogrwydd, a pharhau a’r gwaith er budd cymunedau Gogledd Orllewin Cymru.

Beth mae Menter Môn wedi ei gyflawni?

Ers ei sefydlu mae Menter Môn wedi denu £70 miliwn i’r ardal. Mae’r arian wedi ei fuddsoddi mewn cynlluniau fel Llwybr Arfordirol Môn, cefnogi cynlluniau bwyd, adnewyddu adeiladu a gwarchod rhywogaethau cynhenid. Yn y mwyafrif o achosion ni fyddai’r ardal wedi derbyn cymorth heb gais gan Menter Môn.

Rhybydd Preifatrwydd Menter Môn

Mae Menter Môn wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd pan rydych yn gweithio gyda ni neu yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham yr ydym yn defnyddio a gwarchod eich gwybodaeth bersonol. Cliciwch yma i ddarllen Rhybydd Preifatrwydd Menter Môn.

Polisi Cyfle Cyfartal Menter Môn

Cliciwch yma i ddarllen polisi Cyfle Cyfartal Menter Môn.

Polisi Iaith Gymraeg Menter Môn

Cliciwch yma i ddarllen polisi Iaith Gymraeg Menter Môn.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233