Stori’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol hyd yn hyn…

 

O’r dechrau

Dyfarnwyd caniatâd priodol ar y tir ac ar y môr gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn Rhagfyr 2021 er mwyn datblygu Parth Arddangos Llanw Morlais. Mae gan Morlais y potensial i gyflenwi trydan carbon isel adnewyddadwy i tua 180,000 o gartrefi yn ogystal â sicrhau cyfleoedd cyflogaeth yn lleol.

Cafodd y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol ei sefydlu gan Menter Môn er mwyn gweithio ar weithredu Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol er mwyn sicrhau dull graddol o leoli tyrbinau a diogelu’r amgylchedd trwy gydol prosiect Morlais.

 

Beth ddigwyddodd nesaf

Yn Mawrth 2022 fe sicrhaodd y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol gyllid o £4.8M gan WEFO a £1.2M o arian cyfatebol gan Ystâd y Goron. Bydd yr arian yma yn galluogi’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol i gynnal arolygon amgylcheddol a datblygu technoleg monitro er mwyn ateb y cwestiynau yn y Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol, ac wedi hynny, bod amodau’r Drwydded Forol yn cael eu cyflawni yn barod ar gyfer cam cyntaf datblygu’r prosiect. Nod y Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol a’r gwaith y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol yw diogelu rhywogaethau morol yn ardal y prosiect, trwy fonitro unrhyw effeithiau posibl a datblygu dulliau i liniaru unrhyw effeithiau.

Mae sawl datblygwr tyrbin ynni llif llanw wedi cynnig gwahanol fathau o dechnoleg. Felly, bydd y Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol yn sicrhau bod technegau monitro a lliniaru yn gweithio gyda gwahanol dechnolegau.

Yn y cyfamser, mae’r gwaith o adeiladu seilwaith ar y tir wedi cychwyn ers mis Mawrth 2022, fydd yn y pendraw yn darparu ffordd i ddatblygwyr gysylltu tyrbinau ag is-orsaf leol a darparu ynni adnewyddadwy wedi ei gynhyrchu gan y llanw i’r grid trydan.

 

Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol

Mae ymgynghorwyr diwydiant blaenllaw Marine Space a Juno Energy yn cyd-weithio gyda Menter Môn i reoli’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol a datblygu pecynnau gwaith amrywiol er mwyn ymateb i’r Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol.

Bydd nifer o becynnau gwaith amgylcheddol yn cael eu cyflwyno gan Brifysgolion St Andrews, Bangor ac Abertawe, Ocean Science Consultin, RSPB, HR Wallingford a Subacoustech.

Mae’r pecynnau gwaith wedi canolbwyntio ar yr effeithiau posibl a lliniaru i famaliaid morol, ac adar sy’n plymio yn sgil gweithredu tyrbinau ym Mharth Arddangos Morlais.

 

Beth sydd nesaf?

 

Grŵp Cynghori

Fel rhan o’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol, mae grŵp cynghori o arbenigwyr wedi cael ei ffurfio. Mae’r grŵp yn darparu fforwm ar gyfer trafodaeth a ffynhonnell i gynghori’r pecynnau ymchwil i liniaru effeithiau arwyddocaol ar famaliaid morol ac adar sy’n plymio o fewn Parth Arddangos Morlais. Byddant yn gwerthuso’r dulliau monitro a lliniaru yn ofalus, y wyddoniaeth orau sydd ar gael, y fframwaith penderfynu ar ddigwyddiad a’r dechnoleg llanw i’w defnyddio. Byddant hefyd yn sicrhau bod y gweithgareddau monitro yn cyd-fynd ag ymchwil Llywodraeth Cymru ac ymchwil  strategol arall ym maes ynni adnewyddadwy morol. Bydd y canlyniadau yn bwydo mewn i Gynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol manwl.

 

Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol manwl

Unwaith bydd y Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol wedi ei gytuno gyda’r grŵp Cynghori a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a’i gyflawni ynghyd ag amodau eraill angenrheidiol y drwydded forol, bydd cam cyntaf gosod y tyrbinau yn mynd yn ei flaen gan ddefnyddio technoleg monitro a lliniaru i ddatblygu trwy’r pecynnau gwaith.

Bydd camau pellach o osod tyrbinau yn digwydd wedi i effeithiolrwydd monitro a lliniaru gael ei brofi a’i gytuno gyda Grŵp Cynghori’r Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol a CNC. Bydd adolygiadau a gynhelir o allbwn monitro’r Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol manwl gan y Grŵp Cynghori yn helpu i lunio fersiynau o’r ddogfen yn y dyfodol.

Morlais yw’r datblygiad ynni llif llanw cyntaf o’r raddfa yma a bydd yr ymchwil gan y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol yn gymorth i ddatblygu’r diwydiant ynni llif llanw yng Nghymru a thu hwnt.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233