Mae trigolion pedair coes newydd wedi cael eu gweld ger Llangoed yn Ynys Môn yn ddiweddar ac maen nhw’n helpu i reoli’r tir yno fel rhan o brosiect cadwraeth lleol.

Mae’r gre fach o ferlod Carneddau hanner gwyllt yn setlo yn eu cartref newydd yn Ynys Môn ac wedi bod yn pori ar y tir yn Lleiniog, yn chwarae rôl bwysig ym mhrosiect Cwlwm Seiriol. Mae dod â nhw oddi ar y mynydd yn helpu’r gwaith cadwraeth ac amgylcheddol lleol, ond mae hefyd yn helpu i gynnal y cydbwysedd yn y gre – gan gadw nifer y stalwyni i lawr a’u hatal nhw rhag ymladd.

Nod prosiect Cwlwm Seiriol yw rheoli a gwella ardaloedd o dir ar gyfer bywyd gwyllt, hamdden a mynediad o amgylch Llanddona, Llangoed a Llaingoch. Fe’i hariennir gan y Gronfa Loteri Fawr ac mae’n un o nifer o brosiectau cadwraeth ac amgylcheddol Menter Môn.

Mae pori wedi’i gydnabod fel ffordd dda o reoli tir er lles bywyd gwyllt yn lleol, a chyda’r merlod yn brigbori ac yn cnoi ar goed a phlanhigion mae bylchau yn agor yn y llystyfiant er mwyn i blanhigion newydd dyfu. Maent hefyd yn darparu gwrtaith sy’n gallu gefnogi hyd at 250 o fathau gwahanol o bryfed.

Mae Hilary Kehoe yn gweithio gyda’r merlod ar brosiect Cwlwm Seiriol. Dywedodd: “Dwi wedi mwynhau gweithio gyda thîm Cwlwm Seiriol. Dyma’r tro cyntaf i ni ddefnyddio merlod yn y ffordd yma ar gyfer y prosiect ac wedi gweld canlyniadau cadarnhaol – gyda buddion i’r merlod, ynghyd â bod yn ffordd effeithiol o reoli tir i’r prosiect.

“Dim ond 350 o ferlod Carneddau sydd ar y mynyddoedd, ac er nad ydynt wedi’u dynodi’n frîd prin, maent yn wahanol i ferlod Mynydd Cymreig ac yn cario genynnau sy’n benodol berthnasol i wytnwch, felly does dim angen dod â nhw i mewn dros y gaeaf – sy’n eu gwneud nhw’n ddelfrydol i’r prosiect hwn.”

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi dros y gaeaf i wirio’r merlod i wneud yn siŵr eu bod nhw’n ddiogel, yn iach ac yn hapus. Mae Cwlwm Seiriol yn awyddus i ddenu mwy o wirfoddolwyr ac maen nhw’n apelio ar bobl sydd â diddordeb i gysylltu neu gofrestru drwy Facebook Cwlwm Seiriol.

 

Beth yw Cwlwm Seiriol?

Mae Delyth Phillips sy’n cydlynu’r prosiect ar ran Menter Môn yn egluro:

Mae Cwlwm Seiriol yn brosiect saith mlynedd i annog perthynas agosach rhwng trigolion de-ddwyrain Môn a’u hamgylchedd naturiol. Rydym yn gweithio gyda phobl leol a phartneriaid i weithredu’r prosiect ac i helpu pobl wella eu hiechyd drwy gadw’n heini wrth gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth lleol. Y nod yw gwneud y gorau o’r adnoddau naturiol i wella llesiant corfforol a meddyliol – ac rydym bob amser yn awyddus i ddenu mwy o wirfoddolwyr i’r prosiect.

 

Ynghyd â’r fenter merlod Carneddau, mae gweithgareddau a fydd yn ffurfio rhan o’r prosiect Cwlwm Seiriol yn amrywio o deithiau cerdded yn y coed i amrywiol brosiectau cadwraeth megis cynnal ac adfer llwybrau troed.