Banc Amaeth

Mae Covid-19 yn fygythiad i’r diwydiant amaeth ym Môn ac yng Ngwynedd, sy’n hollbwysig i gynnal ein cymunedau.

Oherwydd yr argyfwng, rydym wedi sefydlu ‘Banc Amaeth’ i helpu amaethwyr Môn a Gwynedd i dderbyn cymorth petaent yn cael eu taro yn wael gyda COVID-19.

Eisiau cynnig help?

Os oes ganddoch chi sgil amaethyddol ac eich bod mewn sefyllfa i allu cynnig cymorth, cofrestrwch drwy ddatgan eich manylion ar y ffurflen isod.

Os y derbynnir gais i helpu ar fferm, byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion pellach.

Bydd angen i chi wedyn gysylltu â’r ffermwr i drafod a chytuno ar y gwaith sydd angen ei wneud, ac i dderbyn cyfarwyddiadau pellach.

Wedi eich taro’n wael? Angen cymorth ar eich fferm?

Os ydych chi’n ffermwr sydd wedi eich taro yn wael, neu yn aelod o’r teulu, cysylltwch gyda ni ar y ffôn; 07739 948883 neu dros ebost sionedmc@mentermon.com.

Byddwn yn mynd ati i gysylltu â gwirfoddolwr sydd ar ein cofrestr. Mi geisiwn sicrhau bod y gwirfoddolwr yn lleol i’ch ardal, ac yn meddu ar y sgiliau yr ydych wedi gofyn amdanynt. Unwaith y byddwn wedi eich paru gyda gwirfoddolwr, mi gysylltwn â chi gyda’r wybodaeth.

Bydd y gwirfoddolwr yn cysylltu â chi am gyfarwyddiadau pellach o’r hyn sydd angen ei wneud ar y Fferm;

Bydd angen i chi (y ffermwr) wneud y canlynol:
– Sicrhewch mai gwaith HANFODOL yn UNIG sydd angen ei gwblhau.
– Byddwch yn cysylltu gyda’r gwirfoddolwr dros y ffôn yn unig – DIM wyneb yn wyneb!
– Eglurwch yn fanwl y gwaith sydd angen ei wneud gan gofio egluro am leoliadau goriadau, tapiau, meddygyniaethau ac unrhyw offer angenrheidiol.
– Cytunwch gyda’r gwirfoddolwr am sawl diwrnod sydd angen iddynt weithio ar y Fferm gan y gall rai gweithgareddau fod yn rhai dyddiol megis bwydo anifeiliaid.

Mae’r gwasanaeth yma ar gael yng Nghonwy hefyd drwy – Conwy Cynhaliol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Rhys Evans 01492 576671 / 07733 013 328 neu rhys.evans@conwy.gov.uk

**Mae’n BWYSIG, ac yn angen CYFREITHIOL bod gennych yswiriant perthnasol – “Employers Liability insurance”, a “Public Liability Insurance”. Eich cyfrifoldeb CHI fydd sicrhau hyn.**

Ddolenni defnyddiol eraill:

NFU Cymru
UAC
Senedd

 

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233