Mae cwmni bwyd newydd o Wynedd yn ffynnu diolch i ffordd arloesol o dyfu planhigion heb bridd. Wedi ei leoli yn Llanbedr, mae Tyfu’r Tyddyn yn cynhyrchu llysiau gwyrdd micro trwy ffermio fertigol neu hydroponeg ar gyfer bwytai a’r sector arwylo yn lleol.
Gyda chefnogaeth cynllun Tech Tyfu gan Menter Môn, cafodd Tyfu’r Tyddyn ei lansio gan syrfewyr siartredig, Jodie Pritchard a Helen Bailey, gwta bedwar mis yn ôl. Roedd y ddwy yn mwynhau tyfu llysiau ac yn awyddus i ddysgu mwy am ffermio hydroponeg. Penderfynwyd felly i fentro i fyd ffermio fertigol er mwyn gallu mwynhau llysiau micro gartref a chael profiad uniongyrchol o redeg busnes bychan cynhyrchu bwyd. Y bwriad yn y pen draw fydd defnyddio’r profiad i gynghori eu cleientiaid.
Mewn amser byr mae’r busnes wedi tyfu o nerth i nerth, ac yn rhestru nifer o fwytai a thafarndai lleol yn ogystal â Deli’r Hen Farchnad Gaws, Harlech ymysg eu cwsmeriaid.
Dywedodd Helen un o sylfaenwyr Tyfu’r Tyddyn: “Fel rhan o’n gwaith dydd i ddydd fel syrfewyr gyda Baileys a’i Bartneriaid rydym wedi datblygu enw da am allu darparu prawf cysyniad wrth gynghori ein cleientiaid – roedden ni yn awyddus i wneud hyn efo ffermio fertigol hefyd. Roedden ni’n ymwybodol o ffermydd hydroponeg mewn ardaloedd eraill o’r DU ond nid yma yng ngogledd Cymru. Wedi i ni glywed am gynllun Tech Tyfu roedden ni yn awyddus i gymryd rhan ac i rannu profiad gyda’n cleientiaid. Rydym wedi defnyddio hen dŷ gwair traddodiadol ar gyfer y busnes – sy’n dangos bod defnydd i adeiladau traddodiadol mewn ffermio mwy modern.
“Mae’r llysiau micro rydan ni’n eu tyfu yn cynnwys radish, egin pys, blodau haul, brocoli a bresych deiliog. Mae’n cwsmeriaid ni i gyd o fewn 4 milltir i’n safle tyfu ac rydan ni wedi profi bod galw yn lleol am y llysiau. Mae hi wedi bod yn her cadw i fyny efo’r galw – wrth ddanfon i’r Hen Farchnad Gaws yn aml rydym wedi gwerthu allan bron cyn cyrraedd y drws, gyda chynifer o gwsmeriaid yn aros amdanon ni. “
Cafodd cynllun Tech Tyfu ei hun ei sefydlu ym mis Mawrth 2020 i annog ffermwyr a thyfwyr feddwl am ffyrdd arloesol a thyfu cnydau. Y cyntaf yng ngogledd Cymru mae’r cynllun wedi datblygu bellach ac wedi sicrhau arian i greu Hwb Arloesi ym mharc gwyddoniaeth M-SParc, ger Gaerwen, Ynys Môn.
Luke Tyler yw swyddog prosiect Tech Tyfu yn Menter Môn, dywedodd: “Rwy’n falch iawn o weld Jodie a Helen yn llwyddo gyda’r busnes ac yn hapus hefyd bod ein cynllun ni, Tech Tyfu wedi eu helpu nhw i sefydlu’r busnes newydd.
“Yn ogystal â’r potensial i arall gyfeirio rydym yn credu y gall ffermio fertigol alluogi ffermwyr a thyfwyr i gyrraedd marchnadoedd newydd, gwerth uchel gyda nifer cynyddol o fwytai safon uchel sydd ar gael ar draws gogledd Cymru erbyn hyn. Wrth i ni ddod yn fwy ymwybodol o’r angen i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd ac ar adnoddau naturiol fe ddaw hyrwyddo cadwyni cyflenwi lleol a datblygu ffyrdd gwahanol o gynhyrchu bwyd yn fwy pwysig.”
Mae Tech Tyfu yn cael ei redeg gan Menter Môn ac yn derbyn arian Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.