Mae Menter Môn yn cynnal cynhadledd COP bach am 1yh dydd Gwener y 5ed o Dachwedd. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar COP26 a’r argyfwng hinsawdd. Hoffem wahodd plant blwyddyn 5 a 6 i ymuno â ni yn rhithiol trwy zoom ar gyfer y gynhadledd. Gyda digwyddiad mor flaenllaw â chynhadledd COP26 yn digwydd yn yr Alban, mae Menter Môn yn cydnabod pwysigrwydd dod a’r digwyddiad i blant Môn.
Bydd y gynhadledd yma yn cyfrannu at y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg trwy addysgu’r disgyblion am: yr argyfwng hinsawdd, gyrfaoedd STEM a sut mae meddylfryd dylunio a pheirianneg fel Morlais yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Dyma restr o’r sesiynau fydd yn cael eu cynnal fel rhan o’r gynhadledd:
- Croeso a chyflwyniad i’r COP bach
- Cyflwyniad ar Morlais a fidio
- Gweithgaredd ôl troed carbon y disgyblion
- Beth yw dy ôl troed carbon di? Pa weithgareddau byddi di’n eu gwneud yn ystod y bore?
- Bydd templed troed wedi ei rannu gyda’r ysglion o flaen llaw.
- Cyfle i’r plant drafod a meddwl am eu gweithgareddau a’u nodi yn y siap troed.
- Cyflwyniad gan Nel Richards – myfyrwraig sydd yn gohebu o’r gynhadledd yn yr Alban.
- Gweithgaredd gohebu – creu teitl fyddai’n denu sylw papurau newydd.
- Cyflwyniad gan Ann Davies – Lighsource BP – Ynni Solar
- Cyflwyno fideo sydyn o Carwyn a Carwen – ceir trydan Menter Môn
- Gweithgaredd rhyngweithiol – Disgyblion i gael ychydig o funudau i feddwl am enw i fws mini trydan dychmygol eu hysgol nhw.
- Gweithgaredd – Cwis Kahoot
- Bydd y cwis yn ymwneud â COP26, Newid Hinsawdd a gweithgareddau amgylcheddol Menter Môn
- Bydd ambell wobr o safon wedi eu trefnu i enillwyr y cwis.
- Cloi a gwahodd yr ysgolion i wneud ‘addewid i’r blaned’
- Bydd templed siap deilen yn cael ei rannu o flaen llaw neu gall y plant fynd allan i gasglu dail go iawn!
- Yn dilyn y gynhadledd, y plant i feddwl am ac ysgrifennu eu ‘haddewid i’r blaned’ yn y dail. Rydym yn gwadd yr ysglion i dynnu lluniau a / neu ffilmio‘r dail gwyrdd a’i hanfon at Menter Môn er mwyn creu ffilm fer o addewidion plant Môn i’r blaned.
Dyma gyfres o adnoddau addysgol defnyddiol os ydych yn penderfynu gwneud mwy o waith ar COP26 o fewn eich ysgolion chi: Adnoddau Cymraeg COP26 – School Resources | Climate Change & The (twinkl.co.uk)
Linc Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/cop-bach-mon-tickets-193454486577