CROESO I CYLCHOL
Mae economi gylchol yn dod â ni’n nes at adref
Nod Cylchol yw hybu economi gylchol ym mhob rhan o Ynys Môn a Gwynedd, drwy gynnal digwyddiadau a gweithdai cymunedol cyffrous. Mae hynny’n cynnwys y rhai a gynhelir yn Gofodau Gwneud Ffiws a hefyd y prosiectau cymunedol eraill yn y rhanbarth sy’n hybu economi gylchol.
Mae 45% o allyriadau byd-eang yn dod o eitemau bob dydd
Mae ein galw am gynhyrchion newydd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Trwy sicrhau bod deunyddiau’n cael eu defnyddio’n hirach gallwn helpu i leihau allyriadau ac arbed arian, gan gefnogi economi gylchol. Rydym am ddatblygu economi gylchol fywiog ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd drwy annog trwsio ac ail-weithgynhyrchu deunyddiau bob dydd ac eitemau i’r cartref, drwy greu diwylliant o gynaliadwyedd a dyfeisgarwch yn ein cymunedau.
Ein cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw cefnogi pobl Ynys Môn a Gwynedd i ddeall beth yw economi gylchol, creu cyfleoedd i bobl a busnesau gymryd rhan, a lledaenu’r gair y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr gyda’n gilydd.
FFIWS
Rhwydwaith o ofodau gwneud yw Ffiws, sy’n agored i unrhyw un yn Ynys Môn a Gwynedd.
Mae’r mannau cymunedol hyn yno i sbarduno creadigrwydd ac annog pobl i wneud pethau gan ddefnyddio amrywiaeth o offer uwch-dechnoleg.
Mae gofodau gwneud Ffiws yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a bod yn rhan o’r economi gylchol a helpu i leihau gwastraff yma yng Nghymru.
Digwyddiadau Caffi Trwsio Cymru
Mae llawer o leoliadau Ffiws hefyd yn cefnogi prosiect Caffi Trwsio Cymru. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau rheolaidd, a gynhelir gan wirfoddolwyr a all eich helpu i drwsio ac ailddefnyddio eitemau am ddim. Gall hyn gynnwys ddillad, dodrefn, eitemau trydanol a beiciau, i enwi ond ychydig.
Galw ar Wirfoddolwyr
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi’n gofodau gwneud Ffiws ar draws Gwynedd a Môn.
Helpa eraill i ddatblygu eu sgiliau creu gyda chymorth offer uwch-dechnoleg neu â llaw, a’u grymuso i gyfrannu at ddyfodol gwyrdd. Bydd cyfleoedd fel gwirfoddolwyr i;
- Cyfrannu mewn caffi trwsio - o drwsio tyllau mewn dillad, i drwsio tegell neu degan!
- Cynnal gweithdai ble gall bobl ddysgu sgiliau newydd, fel rhoi bywyd newydd i hen feic neu trawsnewid hen gyrten i ddilledyn
- Cynnig cymorth a chefnogaeth i ddatblygu prosiectau sy'n ailwampio eitemau amrywiol- o ddodrefn i deganau!
Gallwch roi awr o’ch amser sbar, neu ddiwrnod cyfan! Cysylltwch â cylchol@mentermon.com gan nodi pa sgiliau sydd gennych i’w gynnig ac ym mha leoliadau hoffech wirfoddoli! Da ni’n awyddus clywed gan bawb!
Cefnogi Cylchol
Rydym yn gyffrous i arwain ymgyrch newydd fydd yn sicrhau economi gylchol gryfach yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ond rydym angen dy help di! Os wyt ti wedi ymweld â gofod Ffiws, wedi cynnal gweithdy neu defnyddio Caffi Trwsio, cofia sôn am hyn ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddia.
#CylcholCymru