Mae Hwb Arloesi yn gartref i’n Gofod Cydweithio; ystafell amlbwrpas ynghanol Stryd Fawr Porthmadog. Gallwch logi desg i weithio yma am y dydd, gan fwynhau cwmni unigolion proffesiynol eraill a chyfleusterau gwych fel cegin fach, Wifi a ‘pod gwydr’ i ymuno â chyfarfodydd rhithiol. Mae’n bosib llogi’r ystafell gyfan hefyd ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant a gweithgareddau.

Cyfeiriad: Hwb Arloesi, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9NU

Oriau agor: 10yb – 4yp Llun i Iau*

*Gellir trafod amseroedd / dyddiau eraill

Nifer o bobl: 25 yn sefyll / 6-14 o amgylch byrddau

Cyfleusterau toiledau: Toiledau anabl

Cyfleusterau Cegin: Oes

Cyfleusterau TG: Plygiau trydan o amgylch yr ystafell. Teledu wedi’i osod ar wal ac ar stondin ar gael, a gellir eu cysylltu â laptop.

Wifi: Oes

Costau:

  • Desg: £7.50 am hanner diwrnod, neu £15 am ddiwrnod cyfan
  • Ystafell lawn: £10 yr awr

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r gofod- cysylltwch â’r tîm i drafod ymhellach: gwynedd@mentermon.com / 01248 858 845

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233