
Partneriaeth newydd yn dosbarthu pecynnau bwyd ar draws Ynys Môn a Gwynedd
Mae Dylan’s a Menter Môn, gyda chefnogaeth asiantaethau eraill wedi dod at ei gilydd i sefydlu gwasanaeth cludo bwyd newydd i sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau yn cael eu bwydo yn ystod argyfwng COVID-19.
Nod y fenter newydd, sef ‘Neges’ yw dosbarthu pecynnau bwyd yn rhad ac am ddim ar draws Môn a Gwynedd, gan atgyfnerthu ymdrechion arwrol banciau bwyd a gwirfoddolwyr cymunedol. Bydd yr awdurdod lleol yn y ddwy ardal yn gweithio gyda ‘Neges’ i adnabod teuluoedd bregus ac unigolion sydd angen y gefnogaeth.
Bwriad ‘Neges’ hefyd yw darparu bwyd ar gyfer staff Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd sydd methu cael mynediad at y ffreutur oherwydd cyfyngiadau sydd mewn lle oherwydd y coronafeirws.
Y cynhyrchwr a busnesau lleol sy’n cefnogi’r cynllun:
- Blas ar Fwyd
 - Cotteswold Dairy (Welsh milk)
 - Derwydd Free Range Welsh Eggs
 - Dolmeinir Meats
 - Dylan’s
 - Edwards of Conwy
 - Gower View Foods
 - Harlech Foodservice
 - Hufenfa De Arfon
 - Llaeth y Llan
 - M. Hughes & Sons
 - Popty Bakery
 - Welsh Brew Tea
 
PWYSIG!! I dderbyn y gwasanaeth yma, mae rhaid eich bod wedi cael eich cyfeirio drwy unai Cyngor Môn neu Cyngor Gwynedd. NID yw Menter Môn a Dylan’s yn derbyn cyfeiriadau yn uniongyrchol.