Cafodd North Wales Fish Direct ei greu fel ymateb uniongyrchol i sefyllfa COVID 19, wrth i farchnadoedd pysgota’r DU ac Ewrop gael eu colli i bysgotwyr Gogledd Cymru.
Cafodd tudalen Facebook ei greu ac mae’n cael ei rheoli gan Craig Hughes, Uwch Swyddog Menter Môn, sydd ar weithgor Lleol y Pysgotwyr (FLAG). Creuwyd @seafoodwales er mwyn i bysgotwyr a chyflenwyr bwyd môr o bob rhan o’r ardal fedru cyflwyno manylion cynnyrch a chynigion. Mae’n ddull hefyd iddynt fedru gwerthu’n uniongyrchol i gymunedau lleol ledled Gogledd Cymru, gan sicrhau incwm drwy’r cyfnod anodd hwn.
Gall cwsmeriaid hefyd roi ceisiadau am fwyd môr, gan roi manylion o’u hanghenion a’u lleoliad, fel bod pysgotwyr sy’n lleol iddynt yn gallu cysylltu a chyflenwi bwyd môr iddynt.