
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Gogledd Cymru yn cefnogi'r diwydiant pysgota a chymunedau cysylltiedig ar draws Gogledd Cymru.
Trosolwg
Ymateb Menter Môn a FLAG Gogledd Cymru i’r Pandemig Cofid19.
Fel rhan o’r ymateb i Cofid 19, mae Menter Môn wedi bod yn gweithio gyda physgotwyr ar draws Gogledd Cymru. Mae’r pandemig i bob pwrpas wedi cau pob marchnad ddomestig ac Ewropeaidd, sy’n hanfodol i’r diwydiant pysgota yn y rhanbarth.
Mewn ymdrech i leihau effaith ddinistriol Cofid 19 ar bysgodfeydd, rydym wedi bod yn gweithio ar ffyrdd i ddatblygu marchnadoedd ar-lein newydd lle gall y pysgotwyr werthu eu cynnyrch. Rydym wedi creu’r dudalen Facebook North Wales Fish direct | Facebook.
Mae hyn yn galluogi i bysgotwyr a manwerthwyr rannu gwybodaeth am eu cynnyrch, gan alluogi pobl i brynu’r cynnyrch yn uniongyrchol. Mae hyn hefyd yn galluogi i gwsmeriaid rannu eu lleoliad a’r hyn maen nhw’n chwilio amdano er mwyn gallu cysylltu cwsmeriaid a chyflenwyr ar lefel leol.
Uchafbwynt y gefnogaeth yma oedd creu nifer o farchnadoedd lleol ledled y rhanbarth. Mae rhain wedi darparu pysgod ffres, cynaliadwy i bobl leol, wrth gadw’r diwydiant pysgodfeydd i fynd.
Os ydych chi’n bysgotwr sy’n chwilio am le i rannu eu cynnyrch, neu os ydych chi’n chwilio am rywle i brynu pysgod a physgod cregyn ffres yng Ngogledd Cymru yna ewch i dudalen Facebook North Wales Fish direct | Facebook neu ewch i chwilio am @SeafoodWales.
Yn ogystal â hyn, mae Menter Môn wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Physgotwyr CWAIN i ddatblygu map rhyngweithiol, yn manylu ar bysgotwyr a manwerthwyr sy’n gwerthu pysgod ffres yng Nghymru.