Neges

Cynnyrch lleol wrth i chi gyrraedd ac yn ystod eich arhosiad.

Bydd y prosiect ‘Neges’ – “cynnyrch lleol wrth i chi gyrraedd ac yn ystod eich arhosiad” – yn hwyluso ac yn cydlynu darpariaeth cynnig bwyd lleol ar gyfer y sector hunanarlwyo e.e. bythynnod, unedau glampio, porthdai …

Wedi’w arwain gan Menter Môn a’i hariannu trwy’r cynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi (Llywodraeth yr UE / Cymru), bydd y cynllun yn rhedeg tan fis Mehefin 2023 gyda’r mwyafrif o weithgaredd yn digwydd yn ystod tymor twristiaeth 2022.

 

Nod y prosiect yw rhoi opsiwn bwyd a diod lleol i ymwelwyr sy’n aros mewn llety hunanarlwyo yn yr ardal, a fydd yn arddangos ehangder cynhyrchwyr o safon o’r ardal ac yn darparu ymdeimlad o le trwy ystod o ddeunydd ategol. Cyflwynir ‘Neges’ mewn partneriaeth â chyflenwyr bwyd a diod, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill o’r sector cyhoeddus a phreifat. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni ar draws siroedd Gwynedd, Ynys Môn a Conwy.

 

Beth mae ‘Neges’ yn chwilio amdano?

 

Cyflenwyr

Rydym yn chwilio am 5 gyflenwr lleol i gydweithio â ‘Neges’ i ddatblygu a threialu nifer o becynnau bwyd a diod rhanbarthol arloesol ar gyfer y sector twristiaeth yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy, sydd naill ai’n cael eu danfon i’r llety neu’n cael eu casglu, o Pasg 2022 ymlaen.

Disgwyliwn i fanwerthwyr, dosbarthwyr, gweithgynhyrchwyr, bwytai a chlwstwr o gynhyrchwyr fod â diddordeb mewn gweithio gyda ‘Neges’ fel cyflenwr.

Rydym am dreialu gwahanol syniadau ar draws y 3 sir, gan dargedu cynulleidfaoedd amrywiol a threialu dulliau dosbarthu amgen. Rydym am osgoi cystadlu rhwng y syniadau y bydd ‘Neges’ yn eu cefnogi fel rhan o’r peilot hwn.

Rydym yn anelu i gael 2 allan o’r 5 cyflenwyr yn gyflenwyr gyda trwydded gwerthu alcohol.

Mae copi o’r Canllawiau Cyflenwyr a Ffurflen Gais ar gael yma:

CANLLAWIAU CYFLENWYR

Darparwyr

Rydym yn chwilio am nifer o weithredwyr ac asiantaethau llety hunanarlwyo i gydweithio â ‘Neges’ i ddatblygu a threialu nifer o becynnau bwyd a diod rhanbarthol arloesol ar gyfer y sector twristiaeth yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy.

Gall darparwr ‘Neges’ er enghraifft fod yn berchennog eiddo hunanarlwyo, busnes glampio, parc sialeoedd neu asiantaeth sy’n gyfrifol am farchnata a chymryd archebion ar gyfer llety o’r fath.

Rydym am dreialu gwahanol syniadau ar draws y gwahanol sectorau o lety hunanarlwyo yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy, gan dargedu cynulleidfaoedd amrywiol a threialu dulliau dosbarthu amgen.

Bydd ‘Darparwr Neges’ yn gallu dewis o ba ‘Gyflenwr Neges’ y mae’n ddefnyddio, a gall gydweithredu â mwy nag un.

Mae copi o’r Canllawiau Darparwyr a Ffurflen Gais ar gael yma:

CANLLAWIAU DARPARWYR

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo Rhys – rhys@mentermon.com

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233