Mae Llwyddo’n Lleol 2050, un o gynlluniau Menter Môn, yn dal i ddatblygu i bob cyfeiriad i sicrhau cefnogaeth ac annogaeth i bobl ifanc yr ardal.

Yn ddiweddar, mae cynllun newydd cyffrous wedi ei lansio, sydd yn cefnogi pobl ifanc a busnesau lleol o fewn y byd marchnata!

Dros gyfnod o 10 wythnos mae 10 unigolyn ifanc ledled Môn a Gwynedd yn gweithio rhan-amser fel swyddogion marchnata. Ochr yn ochr, maent yn derbyn hyfforddiant gan y Strategydd Brand Marchnata Beth Woodhouse (MarketShed). Fel rhan o’r cynllun mae 20 o fusnesau ar draws y ddwy Sir yn derbyn cymorth marchnata gan un o’r unigolion ifanc, a lleol yma. Mae’r busnesau hyn yn amrywio o sector i sector; bwyd a diod, lletygarwch, pensaernïaeth, y gyfraith a gweithgareddau antur ac awyr agored.

 

Swyddogion Stori

Nod y cynllun unigryw hwn yw rhoi cyngor a chefnogaeth marchnata i fusnesau, tra’n darparu sgiliau a phrofiad gwerthfawr i bobl ifanc ar yr un pryd. Mae hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol ddiwydiannau a swyddi amrywiol sy’n bodoli yng Ngogledd Cymru. Mae’n rhaglen gyffrous, sy’n canolbwyntio ar ddod a pobl ifanc a busnesau lleol at eu gilydd i sicrhau llwyddiant yn lleol!

Dyma nhw’r criw, a’r busnesau maent yn ofalu amdanynt!

  1. Mali Llyfni, Penygroes: Ar y Trywydd a Cyfreithwyr Lloyd Evans & Humphreys
  2. Sara Dylan, Bethel: Snowdonia Donkeys a Fferm Fel Yr Wyddfa
  3. Cadi Roberts, Bethesda: Tŷ Castell
  4. Sion Owen, Pwllheli: Euros Hughes Electrical Contractor, EcoAmgueddfa, Taldraeth
  5. Jodie Thomas, Pwllheli: Hen Siop y Crydd a Shed Neigwl
  6. Lois Eckley, Porthmadog: Bwyty Y Banc a The Eating Gorilla
  7. Marged Price, Dolgellau: Sign Creation a Y Hwb
  8. Ffion Evans-Humphreys, Tywyn: Geufron Farm
  9. Josh Jones, Llangefni: Celtic Wellbeing a Llefrith Nant
  10. Gwenno Pritchard, Biwmaris: Sea Kayaking Wales, DEWIS Architecture a Iorwerth Arms

 

 

Dilynwch daith y swyddogion marchnata a’r busnesau drwy gadw lygaid allan ar gyfryngau cymdeithasol Llwyddo’n Lleo 2050: https://www.facebook.com/Llwyddon-Lleol-2050-111221147002339

Beth arall sy’n digwydd?

Amser i Fentro

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 hefyd yn parhau i gefnogi mwy o unigolion drwy gynllun Amser i Fentro. Mae pedwar unigolyn ifanc yn derbyn cymorth pellach i barhau i ddatblygu eu mentrau. Mae’r cynllun yn cynnig tâl am 1 ddiwrnod yr wythnos i’r bobl ifanc dros gyfnod o 10 wythnos. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi teithiau’r bobl ifanc yma, sy’n cyfrannu’n helaeth at eu cymunedau lleol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd Llwyddo’n Lleol 2050 yn parhau i ddatblygu i sawl cyfeiriad. Bydd cynllun dros wyliau’r haf i gefnogi pobl ifanc 14-18 oed i ddatblygu syniadau busnes. Rydym eisoes yn cydweithio â phartneriaethau amrywiol, i sicrhau fod pobl ifanc ein hardal yn cael mynediad at wybodaeth, gwasanaeth, cefnogaeth a thrafodaeth sy’n gysylltiedig â llwyddo, a hynny yn lleol. Hoffem ddatblygu’r cydweithio yma eto, gyda phwy bynnag, a lle bynnag y bo modd.

Mae gwaith cyffrous ar y gweill – cadwch eich llygaid a’ch clustiau yn agored!

Os hoffech wybod mwy am Llwyddo’n Lleol 2050, cysylltwch ag Jade Owen, Menter Môn jade@mentermon.com

 

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233