CROESO I CYLCHOL

Mae economi gylchol yn dod â ni’n nes at adref

Rhoi ail fywyd
i bethau da

Ydych chi’n fusnes Ileol, elusen, crefftwr creadigol, neu'n rhywun sy'n casáu gweld pethau defnyddiol yn mynd i wastraff?

Mae gan ein canolfannau ailgylchu lwyth o eitemau gwych sy'n aros i gael eu trawsnewid - dodrefn, beiciau, offer, ffabrig, teganau, tameidiau coed a llawer mwy. Os ydych chi'n mwynhau ailddefnyddio, ailbwrpasu neu uwchgylchu pethau, dewch i drafod beth allwch chi ei achub!

Cysylltwch os oes ddiddordeb
cylchol@mentermon.com
01248 858845

Nod Cylchol yw hybu economi gylchol ym mhob rhan o Ynys Môn a Gwynedd, drwy gynnal digwyddiadau a gweithdai cymunedol cyffrous. Mae hynny’n cynnwys y rhai a gynhelir yn Gofodau Gwneud Ffiws a hefyd y prosiectau cymunedol eraill yn y rhanbarth sy’n hybu economi gylchol.

Gwynedd

Mae 45% o allyriadau byd-eang yn dod o eitemau bob dydd

Mae ein galw am gynhyrchion newydd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Trwy sicrhau bod deunyddiau’n cael eu defnyddio’n hirach gallwn helpu i leihau allyriadau ac arbed arian, gan gefnogi economi gylchol. Rydym am ddatblygu economi gylchol fywiog ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd drwy annog trwsio ac ail-weithgynhyrchu deunyddiau bob dydd ac eitemau i’r cartref, drwy greu diwylliant o gynaliadwyedd a dyfeisgarwch yn ein cymunedau.

Ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw cefnogi pobl Ynys Môn a Gwynedd i ddeall beth yw economi gylchol, creu cyfleoedd i bobl a busnesau gymryd rhan, a lledaenu’r gair y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr gyda’n gilydd.

Dysga sut fedri di gymryd rhan.

FFIWS

Rhwydwaith o ofodau gwneud yw Ffiws, sy’n agored i unrhyw un yn Ynys Môn a Gwynedd.

Mae’r mannau cymunedol hyn yno i sbarduno creadigrwydd ac annog pobl i wneud pethau gan ddefnyddio amrywiaeth o offer uwch-dechnoleg.

Mae gofodau gwneud Ffiws yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a bod yn rhan o’r economi gylchol a helpu i leihau gwastraff yma yng Nghymru.

Repair Cafe Wales Logo

Digwyddiadau Caffi Trwsio Cymru

Mae llawer o leoliadau Ffiws hefyd yn cefnogi prosiect Caffi Trwsio Cymru. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau rheolaidd, a gynhelir gan wirfoddolwyr a all eich helpu i drwsio ac ailddefnyddio eitemau am ddim. Gall hyn gynnwys ddillad, dodrefn, eitemau trydanol a beiciau, i enwi ond ychydig.

Cefnogi Cylchol

Rydym yn gyffrous i arwain ymgyrch newydd fydd yn sicrhau economi gylchol gryfach yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ond rydym angen dy help di! Os wyt ti wedi ymweld â gofod Ffiws, wedi cynnal gweithdy neu defnyddio Caffi Trwsio, cofia sôn am hyn ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddia.

#CylcholCymru

Support Logos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233