Mae Menter Iaith Môn a Menter Iaith Sir Ddinbych yn gweithio hefo’i gilydd i gychwyn twrnamaint FIFA 20 ar y PlayStation 4. Bwriad y twrnamaint yw cael grŵp o oedolion 18+ yn chwarae gemau cyfrifiadurol a  chymdeithasu trwy’r Gymraeg.

Bydd y gemau’n cael eu chwarae dan oruchwyliaeth swyddogion maes, Gwion a Richard.

Mi fydd yr ap ‘WhatsApp’ yn cael ei ddefnyddio i gymdeithasu gyda’r cystadleuwyr ac ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rannu.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y twrnamaint, llenwch y ffurflen isod, neu am fwy o wybodaeth, e-bostiwch Rich (Môn) ar rich@mentermon.com neu Gwion (Dinbych) ar gwion@misirddinbych.cymru.

Os hoffwch i’ch plentyn cymryd rhan, cwblhewch y ffurflen isod, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Rich (Môn) ar rich@mentermon.com neu Gwion (Dinbych) ar gwion@misirddinbych.cymru.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233