Mae Menter Iaith Môn a Menter Iaith Sir Ddinbych wrthi’n cyd-weithio i greu twrnament FIFA 20 ar y consol ‘Playstation 4’. Bwriad y twrnament yw cael criw o bobl ifanc rhwng 10 ac 15 oed i chwarae gemau cyfrifiadurol a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mi fydd y gemau yn cael ei chwarae o dan oruchwyliaeth swyddogion maes, Gwion a Richard.

Mae meddalwedd ‘Discord’ yn cael ei ddefnyddio i arbed unrhyw wybodaeth bersonol rhag cael ei rannu yn gyhoeddus. Trwy’r meddalwedd yma, mi all y swyddogion maes siarad gyda’r cystadleuydd.

Os hoffwch i’ch plentyn cymryd rhan, cwblhewch y ffurflen isod, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Rich (Môn) ar rich@mentermon.com neu Gwion (Dinbych) ar gwion@misirddinbych.cymru.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233