Mae Menter Môn wedi sefydlu adran Bwyd Amaeth newydd er mwyn ychwanegu gwerth, datblygu cynnyrch newydd a meithrin cadwyni cyflenwi trwy Gymru. Bydd pedwar cynllun yn rhan o’r adran newydd hon; Tech Tyfu, Gwlad y Gwlan, Neges@home a Môn Larder.

Beth yw pwrpas sefydlu’r adran felly? Pwysigrwydd yr adran fydd plethu’r cynlluniau ynghyd er mwyn manteisio a gwneud y mwyaf o’r gwerthoedd unigryw sydd yma yng nghefn gwlad Cymru.

Medd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, “Mae plethiant yn sicrhau arloesedd, ac mae ein llinyn arian sef gwerth mewn gwahaniaeth yn golygu bod holl gynlluniau Menter Môn yn cyfrannu ac yn ychwanegu at werth ei gilydd a gwerth yr hyn sydd yn ein gwneud ni’n unigryw yma yng Nghymru.”

Prosiect sydd wedi bod yn annog tyfwyr a ffermwyr i ddarganfod ffyrdd arloesol o dyfu cnydau heb bridd ydi Tech Tyfu. Bydd yr adran Bwyd Amaeth yn sicrhau bod y dull carbon isel yma o amaethyddiaeth yn cyfrannu at amgylchedd cymunedau cefn gwlad yn ogystal â chyfrannu at yr economi ar yr un pryd.

Prif amcan Neges@home fydd darparu pecynnau bwyd ar gyfer ymwelwyr sydd yn aros mewn lletai hunan arlwyo. Bydd y pecynnau hyn yn plethu’r holl gynlluniau ynghyd wrth gynnwys cynnyrch Tech Tyfu, yn ogystal â phrosiect arall gan Menter Môn, sef Môn Larder – hwb bwyd a diod lleol.

Mae Elen Hughes, Prif Weithredwr Menter Iaith Môn yn teimlo mai “cam naturiol fyddai plethu iaith a diwylliant i mewn i’r pecynnau bwyd hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth ymwelwyr o ddiwylliant Gogledd Cymru.”

Yn ogystal, ac yn rhyfeddol, bydd Neges@home yn defnyddio gwlan,drwy gynllun Gwlad y Gwlan er mwyn cadw lefelau tymheredd y pecynnau yn gyson! Beth yw cynllun Gwlad y Gwlan felly? Cynllun cenedlaethol sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, gyda bwriad i ddatblygu arloesedd gwlan yng Nghymru ydyw. Gobeithia’r cynllun wrthsefyll anfanteision Cofid-19 a Brexit ar yr economi amaethyddol.

Yn sgil sefydlu’r adran arloesol, newydd sbon hon, bydd angen cyfarwyddwr brwdfrydig i arwain. Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Bwyd Amaeth i ymuno â’r Cwmni, fydd yn gyfrifol am bortffolio’r holl gynlluniau cyffrous hyn gan sicrhau arloesedd yng nghefn gwlad Gogledd Cymru. Mae podlediad a fideo hefyd wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol Menter Môn ble mae modd dysgu mwy am yr adran a’r swydd.

Am fwy o wybodaeth am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â carys@mentermon.com neu ewch i www.mentermon.com i ddarganfod mwy am y cynlluniau.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233