Bydd diffibrilwyr achub bywyd yn cael eu gosod mewn 40 o leoliadau ar hyd a lled gogledd Cymru mewn partneriaeth rhwng Menter Môn a ‘Cadwch Curiadau’, sy’n rhan o elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las.


Bydd y cynllun yn cyflenwi ac yn gosod y diffibrilwyr mewn cymunedau arfordirol ar draws gogledd Cymru fel rhan o gynllun sy’n cael ei gydlynu gan brosiect Menter Môn sef FLAG (Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd). Gan dargedu ardaloedd mwy anghysbell, dyma un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath ar gyfer y rhanbarth, fydd yn sicrhau bod offer a allai achub bywyd ar gael mewn argyfwng.

 

Craig Hughes, yw rheolwr prosiect FLAG ym Menter Môn. Dywedodd: “Yn aml iawn, mi all y dyfeisiau hyn olygu osgoi marwolaeth pan fydd person yn dioddef trawiad ar y galon, felly roedden ni’n awyddus iawn i gymryd rhan a gweithio gyda Cadwch Curiadau i wireddu’r cynllun hwn.”

 

Dewiswyd y 40 safle ar sail ymgynghoriad â grwpiau cymunedol gan gynnwys ymatebwyr cyntaf, yr RNLI a gwylwyr y glannau. Y neges glir a ddaeth yn sgil yr ymgynghoriad oedd bod angen gwirioneddol am offer achub bywyd ychwanegol mewn porthladdoedd ac mewn cymunedau arfordirol yn y rhanbarth.

 

Tomos Hughes, Swyddog Cymorth Mynediad Cyhoeddus at Diffibriliwr Gogledd Cymru, fo fu’n arwain ar y gwaith ymgynghori. Dywedodd: “Pan mae amser yn brin, gall y dyfeisiau hyn wneud byd o wahaniaeth. Mae gan bob diffibriliwr ofalwr penodol a byddwn hefyd yn sicrhau ei fod wedi’i gofrestru ar gronfa ddata’r British Heart Foundation (BHF). Mae hyn yn golygu fod y diffibrilwyr yn weladwy i Wasanaeth Ambiwlans Cymru – felly pan fydd rhywun yn ffonio 999 mewn argyfwng ac angen diffibriliwr, gall y gwasanaeth eu cyfeirio atyn nhw.”

 

Bydd y diffibrilwyr newydd yn cael eu hychwanegu i’r rhwydwaith hwn o ddiffibrilwyr ledled gogledd Cymru sydd wedi’u cofrestru ar gronfa ddata’r BHF.

Ychwanegodd Gillian Pleming, Rheolwr Gwasanaeth, Cydlynu Gwasanaethau Meddygol Brys ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Llanfairfechan: “Mae’r gallu i adnabod a chyfeirio galwyr yn gyflym at diffibriliwr cyfagos yn gwneud gwahaniaeth mawr yng nghyfraddau goroesi ataliadau’r galon y tu allan i’r ysbyty. Mae cronfa ddata’r BHF yn adnodd amhrisiadwy i ni ac rydym yn croesawu’r ychwanegu’r 40 diffibriliwr newydd yma yng ngogledd Cymru.”

 

Mae’r gwaith i osod y dyfeisiau yn dechrau fis Tachwedd a bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’r cynllun trwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop wedi’i reoli gan Lywodraeth Cymru.