Byddsoddwyr Mewn Pobl

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn safon ar gyfer rheoli pobl, gan gynnig achrediad i sefydliadau sy'n cydynd a safon Buddsoddwyr mewn Pobl.

Mae Menter Môn wedi ychwanegu at ei bortffolio o wasanaethau i fusnesau gyda chymorth ar gael bellach i gwmnïau a sefydliadau i ymgeisio am achrediad ‘Buddsoddwyr Mewn Pobl’

Buddsoddwyr mewn Pobl neu IIP yw’r unig safon ryngwladol ar gyfer rheoli pobl. Mae’n farc rhagoriaeth ar gyfer cyflogwyr sy’n cael eu cydnabod am berfformiad gwych ac sy’n sicrhau awyrgylch cefnogol ar gyfer eu gweithlu, sydd yn ei dro yn helpu’r cwmni ddatblygu a thyfu.

Mae pedwar lefel o achrediad ar gael ar gyfer cyflogwyr a gall Menter Môn arwain sefydliadau drwy’r holl broses hyd at y pwynt o dderbyn yr achrediad terfynol. Mae’r gwasanaeth yn ddwyieithog ac ar gael ar draws gogledd Cymru.

Un o’r sefydliadau mae Menter Môn wedi cynorthwyo drwy’r achrediad ydi Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC). Mae YGC yn gweithredu ym maes cynllunio, dylunio a chyflawni prosiectau mewn amryw o sectorau gan gynnwys isadeiledd a thrafnidiaeth, eiddo, adeiladu ar amgylchedd. Trwy weithio gyda’r tîm yn Menter Môn llwyddodd YGC i gyrraedd y safon sy’n dangos eu hymrwymiad i ddatblygu talent staff a chreu swyddi o ansawdd uchel yn lleol.

 

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233