Gogledd Cymru FLAG

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Gogledd Cymru yn cefnogi'r diwydiant pysgota a chymunedau cysylltiedig ar draws Gogledd Cymru.

Trosolwg

Ymateb Menter Môn a FLAG Gogledd Cymru i’r Pandemig Cofid19.

Fel rhan o’r ymateb i Cofid 19, mae Menter Môn wedi bod yn gweithio gyda physgotwyr ar draws Gogledd Cymru. Mae’r pandemig i bob pwrpas wedi cau pob marchnad ddomestig ac Ewropeaidd, sy’n hanfodol i’r diwydiant pysgota yn y rhanbarth.

Mewn ymdrech i leihau effaith ddinistriol Cofid 19 ar bysgodfeydd, rydym wedi bod yn gweithio ar ffyrdd i ddatblygu marchnadoedd ar-lein newydd lle gall y pysgotwyr werthu eu cynnyrch. Rydym wedi creu’r dudalen Facebook North Wales Fish direct | Facebook.

Mae hyn yn galluogi i bysgotwyr a manwerthwyr rannu gwybodaeth am eu cynnyrch, gan alluogi pobl i brynu’r cynnyrch yn uniongyrchol. Mae hyn hefyd yn galluogi i gwsmeriaid rannu eu lleoliad a’r hyn maen nhw’n chwilio amdano er mwyn gallu cysylltu cwsmeriaid a chyflenwyr ar lefel leol.

Uchafbwynt y gefnogaeth yma oedd creu nifer o farchnadoedd lleol ledled y rhanbarth. Mae rhain wedi darparu pysgod ffres, cynaliadwy i bobl leol, wrth gadw’r diwydiant pysgodfeydd i fynd.

Os ydych chi’n bysgotwr sy’n chwilio am le i rannu eu cynnyrch, neu os ydych chi’n chwilio am rywle i brynu pysgod a physgod cregyn ffres yng Ngogledd Cymru yna ewch i dudalen Facebook North Wales Fish direct | Facebook neu ewch i chwilio am @SeafoodWales.  

Yn ogystal â hyn, mae Menter Môn wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Physgotwyr CWAIN i ddatblygu map rhyngweithiol, yn manylu ar bysgotwyr a manwerthwyr sy’n gwerthu pysgod ffres yng Nghymru.

 

Porth i'r Plat

 

 


Gwybodaeth

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Gogledd Cymru yn cefnogi’r diwydiant pysgota a chymunedau cysylltiedig ar draws Gogledd Cymru.

Nod Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Gogledd Cymru (FLAG) yw cefnogi’r diwydiant pysgota a chymunedau cysylltiedig ym mhob sir trwy ddarparu ystod o gamau gweithredu a gweithgareddau. Mae’r FLAG yn cynrychioli’r sectorau y mae’n eu cefnogi a bydd yn annog dull o’r gwaelod i fyny er mwyn datblygu prosiectau hyfyw a chynaliadwy. Bydd FLAG Gogledd Cymru yn cyfrannu at gyflawni’r nod hwn trwy ddilyn yr amcanion canlynol:

1. Ychwanegu gwerth at gynhyrchion pysgodfeydd
2. Annog arallgyfeirio gweithgaredd economaidd
3. Cadw a gwella lles amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol
4. Grymuso’r cymunedau pysgota lleol

Astudiaethau

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=zfh4ettl2PI&w=560&h=315]

AED – diffibriliwr

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=sSZrMI8oVZc&w=560&h=315]

Prosiect ‘Man Overboard’

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=T5BGE5pe57o&w=560&h=315]

Côd Ymddygiad Afon Menai

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=fFONAEApDVI&w=560&h=315]

FLAG Escape Hatches

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233