Trosolwg
Hwb Hydrogen Caergybi
Yn rhoi hwb i Ddyfodol Glân a Gwyrdd
Mae Gogledd Cymru yn dod yn rhan bwysig o ddyfodol ynni glân y DU – gan yrru arloesedd, creu swyddi gwyrdd, a chyfrannu at y broses o drawsnewid i economi sero net. Mae Hwb Hydrogen Caergybi yn chwarae rhan allweddol yn y newid hwn, fel prosiect blaengar fydd yn cynhyrchu a chyflenwi hydrogen gwyrdd ar gyfer trafnidiaeth, diwydiant, a pheiriannau sydd ddim ar ffyrdd cyhoeddus (NRMM).
Wrth ddefnyddio trydan adnewyddol o un o brosiectau eraill Menter Môn, sef cynllun llif llanw Morlais, bydd yr Hwb yn gam mawr ymlaen tuag at leihau allyriadau mewn sectorau sy’n anoddach i’w datgarboneiddio. Wedi’i leoli ym Mharc Cybi ger tref Caergybi, bydd yn ffurfio rhan o strategaeth ehangach i sefydlu’r rhanbarth fel ardal sy’n arloesi ym maes hydrogen a thwf carbon isel.
Y gobaith yw bydd datblygu Hwb Hydrogen Caergybi yn rhan o dwf ein portffolio ynni, gan gefnogi ein gweledigaeth i greu swyddi lleol, hyrwyddo economi’r rhanbarth, a sicrhau bod y broses o drawsnewid i ynni glân yn rhoi budd hirdymor i’n cymunedau.
Cydweithio a Phartneriaeth
Menter Môn sy’n arwain y gwaith o ddatblygu Hwb Hydrogen Caergybi, gan weithio ochr yn ochr â’n partner Hynamics, is-gwmni i EDF. Trwy gyfuno ein gwybodaeth leol a’u harbenigedd technegol nhw, ein nod yw creu canolfan fydd yn hybu economi gwyrdd.
Pam fod Hydrogen yn Bwysig Rŵan?
Mae hydrogen yn ddewis amgen i danwydd ffosil gan ei fod yn lân, heb unrhyw allyriadau. Wrth i ni anelu at ddyfodol carbon isel, mae hydrogen yn cynnig ateb go iawn i ddatgarboneiddio sectorau lle nad yw trydaneiddio ar ei ben ei hun yn ddigon nac yn ymarferol.
Gall hydrogen…
- Gefnogi datgarboneiddio mewn trafnidiaeth a diwydiannau trwm
- Darparu ffynhonnell tanwydd lleol, dibynadwy ac adnewyddadwy
- Adeiladu gwytnwch yn ein systemau ynni
- Ysgogi arloesedd a chyfleoedd cyntaf o’u math yng Ngogledd Cymru
Pam fod Menter Môn yn cymryd rhan?
Fel ein holl brosiectau a mentrau ynni, rydym am sicrhau budd lleol trwy brosiectau ynni glân.
Mae Hwb Hydrogen Caergybi yn fwy na phrosiect ynni adnewyddadwy lleol, mae’n rhan o’n cenhadaeth i sicrhau twf economaidd lleol, creu swyddi, a chreu llwybrau gyrfa newydd mewn diwydiannau gwyrdd.
Rydyn ni’n falch o hyrwyddo:
- Cyfleoedd cyflogaeth newydd yng Nghaergybi ac Ynys Môn
- Datblygu sgiliau ynni glân a chyfleoedd hyfforddiant
- Twf yn y gadwyn gyflenwi leol ar gyfer technolegau hydrogen
- Sylfaen gadarn ar gyfer arloesedd hydrogen yn y dyfodol ledled Cymru
Eich Helpu i Symud i Danwydd Glân
Rydym eisiau gweithio gyda busnesau a sefydliadau sy’n chwilio am ddatrysiadau carbon isel ar gyfer eu trafnidiaeth. Trwy weithio gyda’n partneriaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt, gallwn eich helpu chi i wneud y newid.
Gallwn eich cefnogi i:
- Ddeall sut mae hydrogen yn cyd-fynd â’ch strategaeth datgarboneiddio
- Cysylltu â chyflenwyr, cyllidwyr a phartneriaid
- Cael mynediad at gyllid ar gyfer y broses o drawsnewid i hydrogen
Camau nesaf ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi
Mae gan yr Hwb eisoes ganiatâd cynllunio ar gyfer electroleiddiwr 1MW, gyda chynlluniau i dyfu hyd at 5MW neu 10MW. Mae gwaith eisoes wedi dechrau, gan gynnwys ymgysylltu gyda diwydiant a phrynwyr.
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan:
- Reolwyr fflyd sector cyhoeddus
- Cwmnïau logisteg a chludo nwyddau
- Defnyddwyr a gweithgynhyrchwyr NRMM
- Cwmnïau seilwaith a pheirianneg sifil
- Arloeswyr technoleg hydrogen
Ydych chi eisiau bod yn rhan o’r stori?
Dyma eich cyfle i fod yn rhan o’r newid. P’un a ydych chi am ddefnyddio hydrogen, buddsoddi mewn seilwaith, neu gefnogi twf cynaliadwy yng Nghymru – rydyn ni eisiau clywed gennych.
Cofrestrwch eich diddordeb – cadwch lygad am y diweddaraf ac ymunwch yn y sgwrs.
Gwybodaeth