Partneriaeth newydd yn dosbarthu pecynnau bwyd ar draws Ynys Môn a Gwynedd 

Mae Dylan’s a Menter Môn, gyda chefnogaeth asiantaethau eraill wedi dod at ei gilydd i sefydlu gwasanaeth cludo bwyd newydd  i sicrhau  bod y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau yn cael eu bwydo yn ystod argyfwng COVID-19.

Nod y fenter newydd, sef  ‘Neges’ yw dosbarthu pecynnau bwyd yn rhad ac am ddim ar draws Môn a Gwynedd, gan atgyfnerthu ymdrechion arwrol banciau bwyd a gwirfoddolwyr cymunedol. Bydd yr awdurdod lleol yn y ddwy ardal yn gweithio gyda ‘Neges’ i adnabod teuluoedd bregus ac unigolion sydd angen y gefnogaeth.

Bwriad ‘Neges’ hefyd yw darparu bwyd ar gyfer staff Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd sydd methu cael mynediad at y ffreutur oherwydd cyfyngiadau sydd mewn lle oherwydd y coronafeirws.

Y cynhyrchwr a busnesau lleol sy’n cefnogi’r cynllun:

  • Blas ar Fwyd
  • Cotteswold Dairy (Welsh milk)
  • Derwydd Free Range Welsh Eggs
  • Dolmeinir Meats
  • Dylan’s
  • Edwards of Conwy
  • Gower View Foods
  • Harlech Foodservice
  • Hufenfa De Arfon
  • Llaeth y Llan
  • M. Hughes & Sons
  • Popty Bakery
  • Welsh Brew Tea

PWYSIG!! I dderbyn y gwasanaeth yma, mae rhaid eich bod wedi cael eich cyfeirio drwy unai Cyngor Môn neu Cyngor Gwynedd. NID yw Menter Môn a Dylan’s yn derbyn cyfeiriadau yn uniongyrchol.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233