Cynllun sy'n creu cyfleoedd gwaith, meithrin uchelgais, balchder a sgiliau, dathlu hunaniaeth leol a datblygu gwytnwch cymunedol Gwynedd
Trosolwg
Mae Grymuso Gwynedd yn gynllun dan arweiniad Menter Môn gyda chydweithrediad Cymunedoli Cyf. sy’n creu cyfleoedd gwaith, meithrin uchelgais, balchder a sgiliau, dathlu hunaniaeth leol a datblygu gwytnwch cymunedol y sir.
Mae Gwynedd yn ardal eang sy’n cynnwys pegynau o safbwynt iaith, daearyddiaeth, môr a mynydd, ond mae ganddi adnoddau a phobl i gefnogi ffyniant cymunedol. Bydd Menter Môn a Cymunedoli Cyf. yn defnyddio eu harbenigeddau a’u profiadau amgylcheddol, mentergarwch, technoleg, busnes, bwyd ac iaith i ateb gofynion a chynnig datrysiadau i gymunedau ar draws y sir.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ddwy ffrwd waith:
1- Cronfa Grymuso Gwynedd
Mae’r gronfa’n cynnig cefnogaeth ariannol i gefnogi datblygiad cymunedol. Bydd disgwyl i’r prosiectau ddatblygu adnoddau lleol, hyrwyddo’r Gymraeg a hunaniaeth leol a chefnogi gweithgareddau fydd yn elwa cymunedau Gwynedd. Bydd y gefnogaeth yn rhoi’r siawns gorau i gymunedau ddatblygu datrysiadau eu hunain i’r heriau sy’n eu hwynebu.Ystyried ymgeisio? Darllenwch y dogfennau canllawiau a chwestiynau cyffredin yma (tab dogfennau uchod) a llenwch y ffurflen datgan diddordeb isod-
Ar ôl llenwi’r ffurflen, bydd swyddogion Menter Môn a Cymunedoli Cyf. yn cysylltu â chi i drafod eich syniad prosiect ymhellach, ac yn rhannu’r ffurflen gais gyda chi. Bydd y swyddogion ar gael i’ch cynorthwyo trwy gydol y broses ymgeisio a hyd y prosiect.
2- Arweinwyr y Dyfodol
Dyma dîm dynamig ag amrywiaeth o sgiliau a nodweddion personol i gydweithio ag aelodau Cymunedoli Cyf. i godi eu capasiti gwireddu. Bydd yr arweinwyr yn gweithio ar draws y sir i gefnogi ffyniant cymunedol, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny heb lawer o gynhaliaeth bresennol. Byddwn hefyd yn cynnig cynllun hyfforddiant a mentora parhaus i ddatblygu sgiliau’r tîm, a’u hannog i feddwl yn greadigol a llunio atebion arloesol, ystyrlon a phwrpasol i heriau’r gymuned. Bydd hyn oll yn proffesiynoli rôl Cymunedoli Cyf. yng Ngwynedd, ac yn cryfhau apêl cyflogaeth gymunedol.
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am Cymunedoli Cyf.
Mae’r prosiect wedi derbyn £1.1m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU,
gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.
Gwybodaeth
Astudiaethau
Galeri
Dogfennau
- Canllawiau Grymuso Gwynedd (344kb)
- Cwestiynau cyffredin Grymuso Gwynedd (400kb)