Hwb Hydrogen

Trosolwg

Cofrestrwch eich diddordeb – cadwch lygad am y diweddaraf ac ymunwch yn y sgwrs.

     

    Hwb Hydrogen Caergybi

    Yn rhoi hwb i Ddyfodol Glân a Gwyrdd

    Mae Gogledd Cymru yn dod yn rhan bwysig o ddyfodol ynni glân y DU – gan yrru arloesedd, creu swyddi gwyrdd, a chyfrannu at y broses o drawsnewid i economi sero net. Mae Hwb Hydrogen Caergybi yn chwarae rhan allweddol yn y newid hwn, fel prosiect blaengar fydd yn cynhyrchu a chyflenwi hydrogen gwyrdd ar gyfer trafnidiaeth, diwydiant, a pheiriannau sydd ddim ar ffyrdd cyhoeddus (NRMM).

    Wrth ddefnyddio trydan adnewyddol o un o brosiectau eraill Menter Môn, sef   cynllun llif llanw Morlais, bydd yr Hwb yn gam mawr ymlaen tuag at leihau allyriadau mewn sectorau sy’n anoddach i’w datgarboneiddio. Wedi’i leoli ym Mharc Cybi ger tref Caergybi, bydd yn ffurfio rhan o strategaeth ehangach i sefydlu’r rhanbarth fel ardal sy’n arloesi ym maes  hydrogen a thwf carbon isel.

    Y gobaith yw bydd datblygu Hwb Hydrogen Caergybi yn rhan o dwf ein portffolio ynni, gan gefnogi ein gweledigaeth i greu swyddi lleol, hyrwyddo economi’r rhanbarth, a sicrhau bod y broses o drawsnewid i ynni glân yn rhoi budd hirdymor i’n cymunedau.

     

    Cydweithio a Phartneriaeth

    Menter Môn sy’n arwain y gwaith o ddatblygu Hwb Hydrogen Caergybi, gan weithio ochr yn ochr â’n partner Hynamics, is-gwmni i EDF. Trwy gyfuno ein gwybodaeth leol a’u harbenigedd technegol nhw, ein nod yw creu canolfan  fydd yn hybu economi gwyrdd.

     

    Pam fod Hydrogen yn Bwysig Rŵan?

    Mae hydrogen yn ddewis amgen i danwydd ffosil gan ei fod yn lân, heb unrhyw allyriadau. Wrth i ni anelu at ddyfodol carbon isel, mae hydrogen yn cynnig ateb go iawn i ddatgarboneiddio sectorau lle nad yw trydaneiddio ar ei ben ei hun yn ddigon nac yn ymarferol.

    Gall hydrogen…

    • Gefnogi datgarboneiddio mewn trafnidiaeth a diwydiannau trwm
    • Darparu ffynhonnell tanwydd lleol, dibynadwy ac adnewyddadwy
    • Adeiladu gwytnwch yn ein systemau ynni
    • Ysgogi arloesedd a chyfleoedd cyntaf o’u math yng Ngogledd Cymru

     

    Pam fod Menter Môn yn cymryd rhan?

    Fel ein holl brosiectau a mentrau ynni, rydym am sicrhau budd lleol trwy brosiectau ynni glân.

    Mae Hwb Hydrogen Caergybi yn fwy na phrosiect ynni adnewyddadwy lleol, mae’n rhan o’n cenhadaeth i sicrhau twf economaidd lleol, creu swyddi, a chreu llwybrau gyrfa newydd mewn diwydiannau gwyrdd.

    Rydyn ni’n falch o hyrwyddo:

    • Cyfleoedd cyflogaeth newydd yng Nghaergybi ac Ynys Môn
    • Datblygu sgiliau ynni glân a chyfleoedd hyfforddiant
    • Twf yn y gadwyn gyflenwi leol ar gyfer technolegau hydrogen
    • Sylfaen gadarn ar gyfer arloesedd hydrogen yn y dyfodol ledled Cymru

     

    Eich Helpu i Symud i Danwydd Glân

    Rydym eisiau gweithio gyda busnesau a sefydliadau sy’n chwilio am ddatrysiadau carbon isel ar gyfer eu trafnidiaeth. Trwy weithio gyda’n partneriaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt, gallwn eich helpu chi i wneud y newid.

    Gallwn eich cefnogi i:

    • Ddeall sut mae hydrogen yn cyd-fynd â’ch strategaeth datgarboneiddio
    • Cysylltu â chyflenwyr, cyllidwyr a phartneriaid
    • Cael mynediad at gyllid ar gyfer y broses o drawsnewid i hydrogen

     

    Camau nesaf ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi
    Mae gan yr Hwb eisoes ganiatâd cynllunio ar gyfer electroleiddiwr 1MW, gyda chynlluniau i dyfu hyd at 5MW neu 10MW. Mae gwaith eisoes wedi dechrau, gan gynnwys ymgysylltu gyda diwydiant a phrynwyr.

    Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan:

    • Reolwyr fflyd sector cyhoeddus
    • Cwmnïau logisteg a chludo nwyddau
    • Defnyddwyr a gweithgynhyrchwyr NRMM
    • Cwmnïau seilwaith a pheirianneg sifil
    • Arloeswyr technoleg hydrogen

     

    Ydych chi eisiau bod yn rhan o’r stori?

    Dyma eich cyfle i fod yn rhan o’r newid. P’un a ydych chi am ddefnyddio hydrogen, buddsoddi mewn seilwaith, neu gefnogi twf cynaliadwy yng Nghymru – rydyn ni eisiau clywed gennych.

     

    Cwestiynau Cyffredin

    Mae'r Hwb yn cefnogi’r broses o drawsnewid Cymru i fod yn sero net drwy greu swyddi gwyrdd, lleihau llygredd, a chefnogi trafnidiaeth a diwydiant glanach. Bydd yn helpu i roi Cymru ar y map i arwain ym maes arloesi hydrogen adnewyddadwy.

    Trwy ddisodli tanwydd ffosil mewn sectorau sy’n anoddach i’w trydaneiddio fel trafnidiaeth trwm, logisteg a diwydiant. Gan nad yw hydrogen yn rhyddhau unrhyw allyriadau, gall leihau carbon yn sylweddol. Mae trydaneiddio yn effeithiol ar gyfer llawer o sectorau, ond mae hydrogen yn fwy addas ar gyfer trafnidiaeth trwm a diwydiant.

    Mae tanwydd hydrogen yn ffynhonnell ynni glân sy'n gallu pweru cerbydau a phrosesau diwydiannol. Yng Nghaergybi, bydd yr hydrogen yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio proses o'r enw electrolysis, sy’n cael ei bweru gan drydan adnewyddadwy.

    Bydd. Mae disgwyl i'r prosiect greu swyddi gwyrdd o safon uchel a darparu cyfleoedd hyfforddi i ddatblygu sgiliau ynni glân. Bydd o fudd i economi Ynys Môn a rhanbarth gogledd Cymru yn ehangach.

    Ydy. Mae caniatâd cynllunio wedi’i gadarnhau eisoes ar gyfer electroleiddiwr 1MW, ac mae gweithgareddau cyn-ddatblygu wedi dechrau, gan gynnwys creu partneriaethau gyda rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol.

    Mae hydrogen yn nwy fflamadwy, felly yn yr un modd a phetrol neu nwy naturiol, mae'n rhaid ei drin yn ofalus. Fodd bynnag, mae wedi cael ei ddefnyddio'n ddiogel o fewn y diwydiant ers degawdau. Mae Hwb Hydrogen Caergybi wedi'i gynllunio i weithredu'n ddiogel a bydd yn dilyn safonau diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

     

    Ffeithiau allweddol am ddiogelwch hydrogen:

    • Nid yw hydrogen yn wenwynig ac mae’n diflannu’n gyflym i’r aer os caiff ei ryddhau.
    • Mae’n ddi-liw ac yn ddiarogl, ond mae synwyryddion yn canfod gollyngiad yn gyflym.
    • Mae’r prosiect yn cael ei reoleiddio a’i arolygu o dan gyfreithiau diogelwch ac amgylcheddol y DU.

    Mae'r Hwb wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer electroleiddiwr 1MW, gyda chynlluniau i gynyddu i 5MW neu 10MW yn seiliedig ar alw a phartneriaethau sydd wedi'u cadarnhau.

    Mae'r sectorau targed yn cynnwys:

    • Fflydoedd sector cyhoeddus
    • Logisteg a chludiant trwm
    • Peirianneg sifil ac adeiladu
    • Peiriannau sydd ddim ar ffyrdd cyhoeddus (NRMM)
    • Gwneuthurwyr ac arloeswyr technoleg hydrogen

    Er bod llawer o ddefnydd i drydaneiddio, mae hydrogen yn fwy addas ar gyfer:

    • Trafnidiaeth trwm a phellter hir
    • Diwydiant gydag anghenion ynni uchel
    • Pan  nad yw systemau batri yn ymarferol

    Rydym yn ceisio datganiadau o ddiddordeb gan:

    • Darpar gwsmeriaid Hydrogen
    • Cyflenwyr seilwaith a thechnoleg
    • Gweithredwyr fflyd a chwmnïau logisteg

    Cydweithwyr lleol a chenedlaethol yn y gadwyn werth hydrogen

    • Mynediad at gyflenwad hydrogen adnewyddadwy lleol
    • Cyfleoedd ar gyfer cydweithio ac arloesi
    • Cymryd rhan mewn prosiect ynni glân proffil uchel
    • Cyfraniad at leihau allyriadau a chyrraedd nodau amgylcheddol, cymdeithasol a rheoleiddiol (ESG)

    Ymunwch â ni yn:

    Neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol i drefnu cyfarfod.

     

    Gwybodaeth

    Hwb Hydrogen Caergybi

    Yn rhoi hwb i Ddyfodol Glân a Gwyrdd

    Mae Gogledd Cymru yn dod yn rhan bwysig o ddyfodol ynni glân y DU – gan yrru arloesedd, creu swyddi gwyrdd, a chyfrannu at y broses o drawsnewid i economi sero net. Mae Hwb Hydrogen Caergybi yn chwarae rhan allweddol yn y newid hwn, fel prosiect blaengar fydd yn cynhyrchu a chyflenwi hydrogen gwyrdd ar gyfer trafnidiaeth, diwydiant, a pheiriannau sydd ddim ar ffyrdd cyhoeddus (NRMM).

    Wrth ddefnyddio trydan adnewyddol o un o brosiectau eraill Menter Môn, sef   cynllun llif llanw Morlais, bydd yr Hwb yn gam mawr ymlaen tuag at leihau allyriadau mewn sectorau sy’n anoddach i’w datgarboneiddio. Wedi’i leoli ym Mharc Cybi ger tref Caergybi, bydd yn ffurfio rhan o strategaeth ehangach i sefydlu’r rhanbarth fel ardal sy’n arloesi ym maes  hydrogen a thwf carbon isel.

    Y gobaith yw bydd datblygu Hwb Hydrogen Caergybi yn rhan o dwf ein portffolio ynni, gan gefnogi ein gweledigaeth i greu swyddi lleol, hyrwyddo economi’r rhanbarth, a sicrhau bod y broses o drawsnewid i ynni glân yn rhoi budd hirdymor i’n cymunedau.

     

    Cydweithio a Phartneriaeth

    Menter Môn sy’n arwain y gwaith o ddatblygu Hwb Hydrogen Caergybi, gan weithio ochr yn ochr â’n partner Hynamics, is-gwmni i EDF. Trwy gyfuno ein gwybodaeth leol a’u harbenigedd technegol nhw, ein nod yw creu canolfan  fydd yn hybu economi gwyrdd.

     

    Pam fod Hydrogen yn Bwysig Rŵan?

    Mae hydrogen yn ddewis amgen i danwydd ffosil gan ei fod yn lân, heb unrhyw allyriadau. Wrth i ni anelu at ddyfodol carbon isel, mae hydrogen yn cynnig ateb go iawn i ddatgarboneiddio sectorau lle nad yw trydaneiddio ar ei ben ei hun yn ddigon nac yn ymarferol.

    Gall hydrogen…

    • Gefnogi datgarboneiddio mewn trafnidiaeth a diwydiannau trwm
    • Darparu ffynhonnell tanwydd lleol, dibynadwy ac adnewyddadwy
    • Adeiladu gwytnwch yn ein systemau ynni
    • Ysgogi arloesedd a chyfleoedd cyntaf o’u math yng Ngogledd Cymru

     

    Pam fod Menter Môn yn cymryd rhan?

    Fel ein holl brosiectau a mentrau ynni, rydym am sicrhau budd lleol trwy brosiectau ynni glân.

    Mae Hwb Hydrogen Caergybi yn fwy na phrosiect ynni adnewyddadwy lleol, mae’n rhan o’n cenhadaeth i sicrhau twf economaidd lleol, creu swyddi, a chreu llwybrau gyrfa newydd mewn diwydiannau gwyrdd.

    Rydyn ni’n falch o hyrwyddo:

    • Cyfleoedd cyflogaeth newydd yng Nghaergybi ac Ynys Môn
    • Datblygu sgiliau ynni glân a chyfleoedd hyfforddiant
    • Twf yn y gadwyn gyflenwi leol ar gyfer technolegau hydrogen
    • Sylfaen gadarn ar gyfer arloesedd hydrogen yn y dyfodol ledled Cymru

     

    Eich Helpu i Symud i Danwydd Glân

    Rydym eisiau gweithio gyda busnesau a sefydliadau sy’n chwilio am ddatrysiadau carbon isel ar gyfer eu trafnidiaeth. Trwy weithio gyda’n partneriaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt, gallwn eich helpu chi i wneud y newid.

    Gallwn eich cefnogi i:

    • Ddeall sut mae hydrogen yn cyd-fynd â’ch strategaeth datgarboneiddio
    • Cysylltu â chyflenwyr, cyllidwyr a phartneriaid
    • Cael mynediad at gyllid ar gyfer y broses o drawsnewid i hydrogen

     

    Camau nesaf ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi
    Mae gan yr Hwb eisoes ganiatâd cynllunio ar gyfer electroleiddiwr 1MW, gyda chynlluniau i dyfu hyd at 5MW neu 10MW. Mae gwaith eisoes wedi dechrau, gan gynnwys ymgysylltu gyda diwydiant a phrynwyr.

    Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan:

    • Reolwyr fflyd sector cyhoeddus
    • Cwmnïau logisteg a chludo nwyddau
    • Defnyddwyr a gweithgynhyrchwyr NRMM
    • Cwmnïau seilwaith a pheirianneg sifil
    • Arloeswyr technoleg hydrogen

     

     

    Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



    01248 725 700

    Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

    Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

    Rhif Cwmni: 3160233