Theatr Ieuenctid Môn

Cyfleon celfyddydol i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng theatr a pherfformio.

Daw’r dychymyg yn fyw o dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol.

Croeso i Theatr Ieuenctid Môn!

Mae theatr yn gallu ein cludo ni i unrhyw le, gan ddod â chymeriadau a llefydd yn fyw gyda geiriau a dychymyg.

Mae Theatr Ieuenctid Môn wedi annog ac wedi cefnogi plant a phobl ifanc Ynys Môn mewn sawl agwedd o fyd y theatr ers ei sefydlu yn 2000. Mae ein gweithdai wythnosol yn cael eu harwain gan dîm o diwtoriaid brwdfrydig a phrofiadol, a dros y blynyddoedd mae cannoedd o aelodau wedi manteisio ar y cyfle unigryw hwn i ddatblygu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau.

Mae ein strwythur presennol yn galluogi ein haelodau i brofi sawl peth gwahanol, o sesiynau wythnosol cyson, i ddosbarthiadau a gweithdai arbenigol, ac ymhellach i brofi cyfleoedd proffesiynol gyda chwmnïau a phrosiectau lleol eraill. Gall hyn agor drysau at gyfleoedd castio ar gyfer gwaith teledu, theatr, ffilm a radio. Rydym yn gweithio’n flynyddol tuag at bantomeim Nadolig Theatr Fach Llangefni, ac yn llenwi’r flwyddyn gyda phrofiadau amrywiol yn seiliedig ar ddiddordebau ein haelodau. Ein nod yw cyflwyno llawer o agweddau gwahanol ar y theatr a’r ddrama, gan ddilyn dulliau traddodiadol o greu dramâu, yn ogystal â phrosesau cyd-greu mwy dyfeisgar.

Cynhelir ein sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg, a drwy hyn rydym yn darparu cyfleoedd naturiol i’n haelodau i ddefnyddio eu Cymraeg mewn lleoliad anffurfiol a hwyliog. Mae’n hanfodol bod ein haelodau yn gweld y Gymraeg fel iaith sy’n agor drysau iddynt mewn rhan unigryw o’r byd.

Manylion y gweithdai wythnosol TIM Bach (Oedran Cynradd):

Mae sesiynau TIM Bach yn cael eu cynnal yn Theatr Fach Llangefni ar nosweithiau Mercher rhwng 6-7:30pm.

Manylion gweithdai wythnosol TIM Mawr (Oedran Uwchradd):

Mae sesiynau TIM Mawr yn cael eu cynnal yn Theatr Fach Llangefni ar nosweithiau Mawrth rhwng 6:30-8pm.

Am fanylion pellach neu am sgwrs, cysylltwch hefo Swyddog Prosiect TIM, niahaf@mentermon.com

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233