
Mae WORKPLACED yn brosiect creu swyddi sy'n gosod unigolion mewn lleoliadau gwaith â thâl gyda busnesau lleol lle byddant yn derbyn profiad a hyfforddiant sy'n arwain at swyddi parhaol.
***SYLWCH: Mae’r cynllun Cymhorthdal Cyflog bellach wedi cau. (Awst 2022) Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfranogwyr newydd gan fod pob lleoliad wedi’i ddyrannu.***
Isod ceir ychydig o feini prawf a chynghorion allweddol am ein cynllun newydd a elwir yn WORKPLACED ac mae’n cynnwys y siroedd: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych a Chonwy.
Menter Môn yw’r cyflwynwyr ar gyfer y cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)) trwy grantiau’r UE.
Y FFEITHIAU:
1. Yn seiliedig ar gyfradd o £9.50 yr awr a delir i’r cyfranogwr, mae’r cynllun yn rhoi cyfraniad o 50% i fusnesau tuag at gyflog cyfranogwr.
2. Gall y busnes gael person ar y cynllun am gyfnod o naill ai:
20 awr yr wythnos am 16 wythnos
3. I fod yn gymwys rhaid i gyfranogwyr y cynllun fod yn 25 oed neu’n hŷn ac DDIM mewn cyflogaeth ar hyn o bryd. (Efallai y bydd rhai amodau eraill yn berthnasol yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn, y gallwn eu trafod gyda chi’n fwy manwl)
4. Gall y cyflogwr dalu mwy na chyfradd yr awr i’r gweithiwr, a’i gyflogi am fwy o oriau. Fodd bynnag, bydd unrhyw oriau neu arian ychwanegol yn cael eu talu’n uniongyrchol gan y cyflogwr i’r cyfranogwr drwy drefniant ar wahân ac ni fydd yn rhan o’r cynllun hwn.
5. Mae grant bach ar gyfer hyfforddiant a dillad gwaith ar gael i bob ymgeisydd, sy’n cynnwys 3 chwrs hyfforddi ar-lein.
6. Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i unrhyw un sydd eisoes wedi’u cyflogi gan eich busnes, felly cysylltwch â ni CYN i chi eu cyflogi.
Sylwch y bydd lleoedd yn cael eu cynnig gyda’r ddealltwriaeth y bydd swydd barhaol i’r person gyda’ch busnes ar ddiwedd y cyfnod lleoliad.
Hefyd, o ran y busnes, nid oes unrhyw waith papur na ffurflenni i’w llenwi, rydym yn ymdrin â’r holl waith papur a materion adnoddau dynol yn uniongyrchol gyda’r cyfranogwr.
CAMAU NESAF:
Os ydych chi wedi adnabod person addas i weithio yn eich busnes ac eu bod yn cyd-fynd â’r meini prawf uchod, cysylltwch â ni isod i gael sgwrs bellach a mwy o fanylion.
Julie Dubberley
Swyddog Cyflogaeth ar gyfer busnesau Ynys Môn a Gwynedd
Ffôn – 07917 155 955 / E-bost – Julie@mentermon.com
Rachel Roberts
Swyddog Cyflogaeth ar gyfer busnesau Conwy a Sir Ddinbych
Ffôn – 07881 873 087 / E-bost – Rachel@mentermon.com
***Bydd y cynllun hwn yn dod i ben Rhagfyr 2022***