Band Eang ‘Ultrafast’ Cymru
Ydych chi’n dioddef o gysylltiad band eang gwael? Neu yn awyddus i gefnogi cymydog sydd heb gysylltiad cystal â chi?
Mae cysylltiad i’r rhyngrwyd yn gynyddol bwysig i gefn gwlad Môn a Gwynedd, yn enwedig yn sgil Covid 19 a’r angen i fod yn gweithio o adra. Dyma sut mae gweithredu, a tydi o ddim am gostio ceiniog i chi!
Mae nifer o gymunedau Môn a Gwynedd wedi gallu cyrraedd cam nesaf y broses er mwyn cael cysylltiad band eang ‘ultrafast’, ond mae angen eich cefnogaeth.
Mae Openreach, sy’n gweithredu mwyafrif y seilwaith band eang yn ein hardal, yn cynnal adolygiad lleol o’r gwaith sydd ei angen, ac, gyda digon o gefnogaeth leol drwy system addewidion (wele cam wrth gam isod) bydd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Llywodraeth, er mwyn gweithredu.
Dim ond ychydig funudau mae’r broses yn ei gymryd. Does dim rhaid i chi fod yn wynebu problemau gydag eich band eang er mwyn dangos eich cefnogaeth, gallwch gadarnhau eich bod am i’ch cymdogion gael mynediad at fand eang ‘Ultrafast’, a mynediad cyflymach i’r rhyngrwyd.
Dim ond drwy’r wefan yma y gallwch addo eich taleb: – https://www.openreach.com/connectmycommunity
Dim ond cymunedau sydd wedi cael eu cymeradwyo gall gynnig addewid. Felly os nad yw’r cod post rydych chi’n ei nodi yn gweithio, mae hyn fel arfer yn golygu nad yw’ch cyfeiriad yn gallu hawlio hyn.
Dim ond unwaith y gallwch chi addo. Os ydych chi’n rhedeg busnes o’ch eiddo, bod hynny’n Fferm, Gwely a Brecwast, Gwasanaeth Ymgynghori, Saer Maen, cofiwch nodi hyn, achos mae gwerth taleb gan fusnes werth hyd at £7,000.
Rydym wedi disgrifio’r broses isod:
Mae’r cwestiwn cyntaf y mae’n rhaid i chi ei ateb yn ymwneud â chyflymder eich cysylltiad presennol â’r rhyngrwyd yn eich cartref / adeilad busnes yn yr ardal.
Os nad ydych yn siŵr cliciwch ar y ddolen hon https://www.speedtest.net/ a dewis Go
Bydd y prawf yn cymryd oddeutu munud i’w redeg. Ar ddiwedd y prawf dylech weld rhywbeth fel hyn:
Mae hyn yn golygu bod cyflymder y cysylltiad hwn yn 73.58mbps. Sy’n llai na 100Mbps, felly dewiswch y blwch ‘Yes’ h.y. rydych chi’n cadarnhau bod cyflymder eich cysylltiad yn llai na 100Mbps.
Mae’r cam nesaf yn gofyn i chi nodi’ch cod post cartref. Cofiwch gadarnhau y blwch ‘I’m not a robot’ hefyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mewnbynu’r cod post yn y fformat LL55 7PQ, nodwch y gofod yn y canol!
Os yw’ch eiddo’n gallu gaddo taleb, fe’ch cyflwynir â’r sgrin hon sy’n dangos enw’r prosiect a faint sydd wedi gaddo hyd yn hyn. Os nad oedd eich cod post yn ddilys mae hyn yn golygu na allwch addo tuag at ariannu’r cynllun.
Ar ôl i chi ddewis y botwm gwyrdd i fwrw ymlaen â’ch addewid, cewch eich tywys i’r ffurflen syml hon lle gofynnir i chi am eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt ac a ydych chi’n rhedeg busnes o’ch eiddo. Cofiwch, os ydych chi’n rhedeg busnes o’ch eiddo, dewiswch yr opsiwn ‘Buisnes’. A chofiwch gadarnhau ar y blwch o dan y maes cyfeiriad e-bost hefyd.
Nid yw Openreach yn eich gorfodi i gofrestru i wasanaeth ganddyn nhw eu hunain neu BT yn unig, gallwch danysgrifio i unrhyw ddarparwr y rhyngrwyd sydd ar gael yn eich ardal – ond mae gofyn bod eich cyfeiriad chi yn tanysgrifio i wasanaeth band eang ofewn 12 mis o’r gwaith yn cael ei gwblhau.
Sylwch nad cyngor cyfreithiol yw hwn, ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle cyngor cyfreithiol priodol gan ymarferydd â chymwysterau addas. Pwrpas hwn yw darparu gwybodaeth gefndirol i helpu cymunedau i gysylltu â band eang ‘Ultrafast’ gan ddefnyddio’r cynllun addewid cymunedol sydd wedi’i lunio gan Openreach, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn ymestyn cwmpas band eang ‘Ultrafast’.