Pwy a Beth yw Menter Môn?
Mae Menter Môn yn fenter di elw sydd yn gwireddu cynlluniau led led Cymru gyda phwyslais ar Ynys Môn a Gwynedd. Mae gennym Fwrdd Cyfarwyddwyr sydd yn rhoi eu hamser yn wirfoddol er mwyn darparu cyfeiriad strategol i’r cwmni.
Ein aelodau bwrdd
Mae Menter Môn yn cael ei arwain gan Fwrdd Cyfarwyddwyr ymroddedig sy’n dod â chyfoeth o brofiad o sectorau amrywiol i gefnogi ein gweledigaeth a’n cenhadaeth. Mae’r Bwrdd yn darparu arweinyddiaeth strategol a goruchwyliaeth, gan sicrhau bod ein prosiectau’n darparu buddion gwirioneddol i gymunedau ledled ynys Môn, Gwynedd a thu hwnt. Gydag arbenigedd sy’n cynnwys cyllid, cynllunio, adnoddau ac arloesi, mae ein haelodau’n rhannu ymrwymiad i gydweithio ac effaith gymdeithasol. Nid ydym yn chwilio am aelodau bwrdd newydd ar hyn o bryd, ond os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn cyfleoedd yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â: ymholiadau@mentermon.com
Dros y blynyddoedd, mae Menter Môn wedi esblygu i gael nifer o ganghennau. Ond yr un nod sydd wrth wraidd pob gweithgaredd:
Dadgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau er mwyn sicrhau dyfodol i’n cymunedau.
Rydym yn canfod, creu a gweithredu cyfleoedd i:
- gefnogi a datblygu pobl
- gryfhau’r economi
- wella yr amgylchedd
- fywiogi ein diwylliant
Mae Menter Môn yn ychwanegu gwerth at adnoddau’r ardal er budd trigolion lleol. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith yn y meysydd:
- Ynni Adnewyddadwy
- Economi Gref
- Cymunedau Llewyrchus
Cwestiynau a ofynnir yn aml…
Beth yw prif feysydd gwaith Menter Môn?
Rydym wedi crynhoi ein gweithgarwch yn dri phrif weithgaredd.
Creu cymunedau llewyrchus
- Helpu cymunedau i ffynnu yw’r sylfaen mae Menter Môn wedi cael ei hadeiladu arni. Rydym yn cefnogi cymunedau bywiog, lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, lle mae amgylchedd iach, a lle mae pobl ifanc dalentog yn cael eu cyflogi mewn swyddi o ansawdd uchel. Rydym yn galluogi cymunedau i ddod at ei gilydd i oresgyn yr heriau maent yn eu hwynebu a bod yn fwy mentrus wrth iddynt siapio eu cymunedau ar gyfer y dyfodol.
Cynhyrchu ynni adnewyddadwy
- Mae ein prosiectau ynni adnewyddadwy yn ategu gwaith cadwraeth ac amgylcheddol Menter Môn ac yn diogelu’r blaned drwy fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â chynhyrchu ynni glân, rydym hefyd yn canolbwyntio ar hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a sicrhau manteision i gymunedau. Mae Menter Môn wedi nodi potensial mawr ar gyfer ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn ac mae’n gyfrifol am brosiectau ynni gwyrdd arloesol gan gynnwys Morlais a Hwb Hydrogen Caergybi.
Adeiladu’r economi
- Mae arloesi yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud ym Menter Môn. Rydym yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i bobl sy’n dechrau ar eu taith fusnes. Rydym yn un o bartneriaid cyflenwi Busnes Cymru ac mae gennym ein Hwb Menter ein hunain i gefnogi entrepreneuriaeth a darparu’r adnoddau cywir i fusnesau gyflawni eu nodau. Rydym yn weithgar mewn meysydd twf yn yr economi fel technoleg ddigidol, ynni adnewyddadwy, bwyd ac amaethyddiaeth, ac yn ymgysylltu â rhwydweithiau
Pwy sydd yn ariannu Menter Môn?
Nid yw’r cwmni yn derbyn arian craidd ac mae’n gorfod ymgeisio neu gystadlu am bob ceiniog.
Sawl person sy’n gweithio i Menter Môn?
Mae nifer y staff yn amrywio o ganlyniad i natur rhaglenni cyllido. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi dros 80 yn ein swyddfeydd yn Llangefni, Gaerwen a Phorthmadog yn ogystal ag aelodau staff sydd yn gweithio o bell ledled Cymru.
Oeddech chi’n gwybod?
Ydych chi wedi sylwi ar yr aderyn lliwgar yn logo Menter Môn? Beth yw arwyddocâd yr aderyn a beth sydd ganddo i wneud efo Menter Môn? Y Nico yw’r aderyn ac wedi ei ysbrydoli gan gerdd y bardd rhyfel, Cynan. Mae’r gerdd yn adlewyrchu hiraeth y bardd am gefn gwlad ac am y bobl nôl adre. Fel y Nico, mae Menter Môn yn lledaenu’r neges nad oes unman yn debyg i’n cynefin. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr fod ein hardaloedd yn cael eu gwarchod a’u datblygu i fod ar eu gorau ac yn barod i wynebu heriau’r dyfodol.