Yn dilyn cadarnhad heddiw y bydd Wylfa yn gartref i orsaf bŵer niwclear Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) gyntaf y DU,  rydym yn awyddus i gadarnhau ein hymrwymiad i helpu busnesau a chymunedau lleol i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r buddsoddiad nodedig hwn am ddod i Ynys Môn, Gogledd Orllewin Cymru a thu hwnt.

Rydym yn gwmni sy’n gweithio i hyrwyddo arloesedd o fewn y sector ynni drwy ein cynllun ynni llanw, Morlais a Hwb Hydrogen Caergybi felly mae’r cysylltiad yn un amlwg. Mae’r prosiectau hyn, ynghyd â datblygiad Wylfa, yn creu cyfleoedd economaidd sylweddol i fusnesau lleol ac yn cryfhau portffolio’r economi ar Ynys Môn gan gynnwys  y gadwyn gyflenwi, busnesau bwyd, ein prosiectau busnesau ehangach a mwy.

Dyma ambell ffordd gallwn ni gynnig cefnogaeth yn sgil y cyhoeddiad yma:

Cymorth i Fusnesau: Trwy ein cynlluniau megis Hwb Menter a Busnes Cymru, gallwn ddarparu cyngor, mentora a chanllawiau cyllido i gefnogi busnesau lleol i baratoi ar gyfer cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi sy’n gysylltiedig â Wylfa a phrosiectau mawr eraill.

Sgiliau ac Arloesi: Mae ein rhaglenni’n canolbwyntio ar uwchsgilio’r gweithlu a meithrin arloesedd mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy, technoleg ddigidol, a chynhyrchu bwyd—gan sicrhau bod busnesau Ynys Môn a thu hwnt yn barod i fodloni gofynion yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn amlygu cyfleoedd i bobl ifanc, gan gynnwys rhai sydd wedi gadael er mwyn cael gwaith.

Datblygu Cymunedau ble mae’r Gymraeg yn ffynnu: Rydym yn parhau i hyrwyddo cymunedau bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, swyddi o ansawdd uchel yn hygyrch, a hunaniaeth leol yn cael ei ddathlu. Mae ein prosiectau – o fentrau diwylliannol i gadwraeth amgylcheddol – wedi’u cynllunio i ddarparu manteision parhaol i breswylwyr.

Gall prosiectau bwyd Menter Môn, fel Larder Cymru, helpu cynhyrchwyr lleol i fanteisio ar gyfleoedd newydd yn y gadwyn gyflenwi a grëwyd gan ddatblygiad Wylfa, gan sicrhau bod busnesau Ynys Môn a thu hwnt yn elwa o alw cynyddol am gynnyrch Cymreig o safon,

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn drobwynt i Ynys Môn. Ein blaenoriaeth fydd sicrhau bod busnesau a chymunedau lleol wrth wraidd y trawsnewidiad hwn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i wneud y mwyaf o fanteision economaidd, creu cyfleoedd i bobl ifanc, a gwarchod ein diwylliant a’n hamgylchedd”.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos sut all Ynys Môn fod ar flaen y gad wrth symud tuag at sero net. Gall hyn fod yn gyfle i adfywio’r economi leol a chryfhau gwytnwch cymunedol.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233