Ailgylchu gwastraff bragdai i wneud bisgedi cŵn, ac ailddefnyddio gwastraff coffi i wneud logiau tân. Dyma enwi dim ond rhai ffyrdd fydd Swyddogion Amgylcheddol newydd Menter Môn yn cynorthwyo busnesau gogledd Cymru dros gyfnod o 12 wythnos, ac mae’r dyddiad cau wythnos i heno!

Dros y misoedd nesaf bydd dau o gynlluniau Menter Môn, sef Llwyddo’n Lleol 2050 ac Arloesi Gwynedd Wledig, yn cydweithio ar gynllun newydd, lle bydd criw o bobl ifanc 18-30 oed yn cael eu cyflogi i edrych ar wahanol agweddau o fusnesau gogledd Cymru er mwyn gweld sut allent fod yn fwy ecogyfeillgar.

Yn ogystal â chael cyflog gan Llwyddo’n Lleol 2050, byddant hefyd yn derbyn sesiynau wythnosol er mwyn adrodd yn ôl ar eu cynnydd a derbyn sgyrsiau gan arbenigwyr a chyflogwyr o fewn y maes amgylcheddol fel Tech Tyfu, Cyfoeth Naturiol Cymru a Morlais.

Jade Owen yw arweinydd y cynllun Llwyddo’n Lleol 2050, dywedodd – “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld criw brwdfrydig yn cael eu penodi fel Swyddogion Amgylcheddol newydd yma ym Menter Môn. Mae’n gyfle i bobl ifanc gyfrannu at wella ôl-troed carbon busnesau, bod yn arloesol yn eu milltir sgwâr, a hyn oll wrth dderbyn cyflog am gyfnod o 12 wythnos.

ychwanegodd – “Heddiw ar Ddiwrnod y Ddaear 2022, rwy’n annog unrhyw un sy’n awyddus i wella ôl-troed carbon busnesau gogledd Cymru ac sy’n frwdfrydig dros yr amgylchedd i fachu ar y cyfle anhygoel yma.”

Yn ddiweddar, daeth cynllun diweddaraf ‘cohort busnes’ Llwyddo’n Lleol 2050 i ben wrth iddynt weld 5 person ifanc yn elwa o hyfforddiant gan arbenigwyr yn y maes busnes am gyfnod o 10 wythnos. Cafodd y criw £1000 o gefnogaeth ariannol ar ddiwedd y cynllun er mwyn datblygu’r syniadau busnes ymhellach.

Yn ogystal â hyn, mae’r criw a oedd yn rhan o’r cohort busnes cyntaf bellach wedi mynd ymlaen i fod yn rhan o’r cynllun cyflogi, lle mae criw o bobl ifanc yn elwa o gymorth gan Llwyddo’n Lleol 2050 i gyflogi swyddogion i fod yn rhan o’u busnesau. Ymysg y rhain mae busnesau fel Clyd, Smwddis Swig, Llaeth Medra a Mwydro.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn – “Mae’n braf iawn gweld cymaint o bobl ifanc yn elwa o gynlluniau Llwyddo’n Lleol 2050. Mae’r cynlluniau’n ffordd arbennig o ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc lleol ac mae’n braf iawn gweld pobl ifanc sydd wedi dechrau ar un o’r cynlluniau yn mynd ymlaen i ddatblygu eu busnesau drwy gyflogi staff neu ehangu’r busnes ymhellach.

ychwanegodd – “Mae ‘Swyddogion Amgylcheddol’ yn gynllun arbennig arall. Mae’n ffordd o ddatblygu sgiliau pobl ifanc lleol a hefyd yn ffordd arbennig o ddatblygu busnesau gogledd Cymru er mwyn sicrhau dyfodol gwyrddach i’r ardal leol.”

Mae dyddiad cau ‘Swyddogion Amgylcheddol’ ar ddydd Gwener, y 29ain o Ebrill, bydd y cynllun yn rhedeg o fis Mai 2022 ac yn dod i ben yn Awst 2022. I ddatgan diddordeb neu i wneud cais, cysylltwch â jade@mentermon.com neu llenwch y ffurflen gais.

Darparwyd cefnogaeth ariannol ar gyfer rhaglenni Arloesi Gwynedd Wledig gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, a Chyngor Gwynedd.

Prosiect sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Arloesi Arfor yw Llwyddo’n Lleol 2050. Caiff ei weithredu gan Menter Môn ar ran Cyngor Môn a Gwynedd. Yn ogystal, cyllidwyd elfennau o’r prosiect drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.