Mae Pwyllgor Gŵyl Cefni a Menter Môn yn falch iawn o gyhoeddi bod Gŵyl Cefni yn dychwelyd yn 2027.
Mae Gŵyl Cefni wedi bod yn cael ei chynnal ers chwarter canrif. Dechreuodd yn y flwyddyn 2000 yn Llangefni fel rhan o weithgareddau ein Menter Iaith o fewn Menter Môn.
Ar ôl cymryd blwyddyn i ddatblygu’r ŵyl yn 2026 a chynllunio ar gyfer y dyfodol, mae aelodau’r pwyllgor wedi bod yn brysur yn gweithio yn y cefndir i edrych ar sut gall Gŵyl Cefni ddatblygu a pharhau dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r gwaith hwnnw wedi helpu i osod sylfaen gadarn ar gyfer y bennod nesaf ac yn rhoi hyder y gall yr ŵyl barhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod gyda chefnogaeth y gymuned a phartneriaid.
Mae Gŵyl Cefni wedi bod yn rhan bwysig o galendr ynys Môn a thu hwnt ers blynyddoedd, gan ddod â phobl ynghyd i ddathlu diwylliant, mwynhau miwsig, a chefnogi busnesau lleol. Bydd Gŵyl Cefni yn cael ei chynnal ar benwythnos y 4ydd –5ed o Fehefin, 2027.
Bydd Gŵyl Cefni Bach dros y ‘Dolig yn cael ei chynnal 5ed o Ragfyr eleni, gan ddod â blas o’r ŵyl yn ôl i ganol y dref a rhoi cyfle i’r gymuned ddod ynghyd unwaith eto.
Dywedodd Elen Hughes, Cyfarwyddwr Cymuned Menter Môn ac ar ran Pwyllgor Gŵyl Cefni:
“Rydym wrth ein boddau’n gallu dweud bod Gŵyl Cefni yn ôl. Mae llawer o waith wedi bod yn mynd ymlaen yn y cefndir ers i ni gymryd amser i ddatblygu’r ŵyl, ac mae ‘na deimlad cyffrous iawn o ran gallu rhannu’r cynlluniau hynny gyda phobl dros y misoedd nesaf.
“Mae Gŵyl Cefni wastad wedi bod yn ŵyl sy’n perthyn i’r gymuned, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi parhau i gefnogi’r ŵyl dros y cyfnod hwnnw. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, busnesau, partneriaid a phobl leol i wneud 2027 yn flwyddyn arbennig iawn i’r ŵyl.”
Mae’r pwyllgor hefyd yn gyffrous I gyhoeddi llawer o enwau gwych sydd wedi eu cadarnhau, byddant yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf!
Bydd mwy o wybodaeth am Gŵyl Cefni Bach, y rhaglen lawn, artistiaid ychwanegol a’r gwesteion arbennig yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.
Am y tro, cadwch y dyddiad, a byddwch yn barod i ddathlu, dawnsio a chanu!

