Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd i ddatblygu prosiect ynni llif llanw Morlais oddi ar arfordir gogledd orllewin Ynys Môn. Dyma rhan gyntaf y broses i ganiatáu’r cynllun fydd yn cynhyrchu trydan di-garbon. Mae’r penderfyniad yn golygu gall y gwaith adeiladu ddechrau ar y tir cyn i’r gwaith o osod dyfeisiadau yn y môr ddechrau.

Menter gymdeithasol leol, Menter Môn sy’n rhedeg Morlais. Bydd y cynllun yn cynhyrchu trydan gan defnyddio adnoddau llanw sydd ymysg y cryfaf yn Ewrop.  Y cyntaf o’i fath yn y DU, bydd gan Morlais y potensial i gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 180,000 o gartrefi unwaith y bydd yn gweithredu ar ei gapasiti llawn.

Mae Gerallt Llewelyn Jones yn Gyfarwyddwr gyda Morlais, dywedodd: “Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi sicrhau caniatâd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni Morlais. Mae penderfyniad heddiw yn dilyn blynyddoedd lawer o waith caled ac ymgynghori, rydyn ni rwan yn edrych ymlaen at symud i’r cam nesaf ac i wireddu’r cynllun.

“O’r cychwyn cyntaf ein nod oedd sicrhau bod y prosiect yn dod â budd lleol o ran swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi. Mae Morlais yn cael ei redeg yn lleol – mae hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod y buddion hefyd yn aros o fewn y gymunedau leol.”

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, ychwanegodd: “Mae Morlais yn brosiect pwysig i ni yma ar yr ynys ac ar gyfer rhanbarth gogledd Cymru yn ehangach. Nid yn unig gall sicrhau swyddi o safon a helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol ond bydd hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddiant i’n pobl ifanc yma ar eu stepen drws.

“Nid dim ond o ran yr economi mae’r penderfyniad am Morlais yn arwyddocaol wrth gwrs. Rydyn ni gyd yn ymwybodol iawn erbyn hyn o’n heffaith ar y blaned a’r hinsawdd. Mae llywodraeth yn San Steffan a Chymru wedi ei gwneud yn glir bod lleihau carbon yn flaenoriaeth. Mae ynni llanw yn garbon isel, yn lân ac yn ddibynadwy – ein nod trwy Morlais felly yw chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau ein bod ni’n gofalu am yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo’r cynllun, y cam nesaf yw sicrhau cadarnhad gan Gyfoeth Naturiol Cymru eu bod am roi Trwydded Forol i Morlais. Dyma fydd yn caniatáu datblygwyr technoleg llanw i osod dyfeisiau yn y môr i gynhyrchu trydan glân.

Yn ddibynnol ar dderbyn pob caniatâd, bydd gwaith adeiladu a gweithredu yn digwydd yn raddol er mwyn gallu monitro effaith ar fywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae disgwyl i waith ar y tir gychwyn yn gynnar yn 2022, gyda’r gwaith yn y môr i ddechrau yn 2023.

Mae Morlais wedi derbyn cefnogaeth gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, yn ogystal â Bargen Twf Gogledd Cymru.