Mae cyfnod prysur o flaen criw Ffiws Porthmadog, wrth i ni gynnal amrywiaeth o weithdai yn Hwb Arloesi dros gyfnod yr haf.
Mae’r mwyafrif o weithdai yn addas ar gyfer plant 6+, a bydd tâl o £3.
Bydd ein gweithdai arferol yn parhau i fod yn agored i’r gymuned gyfan, a bydd tâl o £5.
Gofynnwn i rieni/gwarchodwyr aros drwy gydol y gweithdai.
Mae archebu lle yn hanfodol gan fod niferoedd cyfyngedig ar gael: cysylltwch â gwynedd@mentermon.com / 01248 858 845
Gweithdai i blant- £3 y plentyn
GWEITHDY RHOI BYWYD NEWYDD I HEN GRYS T
28/07- 10:00-12:00
- Dylunio crys-t eu hunain
- Paentio darlun neu batrwm unigryw â paent, ffeltpens neu chreyon
- Defnyddio gwasg gwres i drosglwyddo’r darlun i’r crys-t.
- Dewch â’ch crys-t eich hun
GWEITHDY RHOI BYWYD NEWYDD I GRYS T GWYN
28/07- 13:00-15:00
- Bydd plant yn dysgu sut i ailddefnyddio eu crysau T gwyn hen gan ddefnyddio lliwiau llachar a technegau creadigol ‘Tie Dye’.
- Dewch â chrys-T gwyn a ffedog
GWEITHDY CREU CES SBECTOL HAUL WEDI EI BERSONOLEIDDIO
31/07- 10:00-12:00
- Cyfle i ddefnyddio peiriant gwnio (dim angen profiad blaenorol)
GWEITHDY CREU CAS PENSILIAU WEDI EI BERSONOLEIDDIO
14/08- 10:00-12:00
- Ailgylchu defnydd
- Cyfle i blant ddefnyddio peiriant gwnîo (dim angen profiad blaenorol)
GWEITHDY CREU GOLYGFA ‘O DAN Y MÔR’
19/08- 10:00-12:00 & 13:00-15:00
- Gweithdy hwyliog lle bydd plant yn creu golygfa arbennig trwy ailgylchu deunyddiau amrywiol
- Dewch â bocs esgidiau a ffedog
GWEITHDY CELF CARDFWRDD; CREU COEDWIG TYLWYTH TEG
26/08- 10:00-12:00 & 13:00-15:00
- Creu coedwig fechan hyd gan ddefnyddio cardfwrdd wedi’i ailgylchu
- Dysgu sut i droi deunyddiau dyddiol yn rhywbeth gwirioneddol swynol.
- Dewch â carddfwrdd a ffedog!
Gweithdai agored i bawb (plant ac oedolion)- £5 y sesiwn
Sesiwn gyda Wyn y Technegydd
25/07, 01/08, 08/08, 15/08, 22/08, 29/08
Sesiynau’n cychwyn am 9:00, 10:30, 13:00, 14:30 ac yn llenwi’n gyflym
Yn Ffiws, mae’n bosib i chi weithio ar brosiectau newydd neu presennol, cael hyfforddiant argraffu laser ac offer 3D, prototeipio’ch cynnyrch, arbrofi a datblygu syniadau. Mae’r rhain yn sesiynau 1.5 awr, gyda thâl o £5 yn ddyledus, ac yn agored i hyd at 5 unigolyn.
GWEITHDY BEICS: CYNNAL A CHADW
12/08- 10:00-16:00
Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod y dydd i dderbyn cyngor a chymorth ar sut i gadw’ch beic / beic pedlo plant mewn cyflwr da.
CAFFI TRWSIO
23/08- 10:00-16:00
Mae’r caffi trwsio yn gyfle perffaith i chi alw mewn am y tro cyntaf i weld beth gallwn gynnig i chi. Bydd nifer o dechnegwyr profiadol yno i’ch addysgu a chynorthwyo i drwsio dillad, beics, gemwaith ac eitemau eraill. Dewch draw i ddweud helo!