Mae Menter Môn wedi bod yn asesu effaith Mis Cylchol, sef ymgyrch uchelgeisiol a chreadigol i ddathlu a hyrwyddo’r economi gylchol ar draws Gwynedd a Môn. Gyda dros 191 o weithdai a 1043 o bobl yn cymryd rhan, roedd y mis yn llawn gweithgareddau ymarferol, dysgu cymunedol, a dathliadau o gynaliadwyedd.
Uchafbwyntiau
Y digwyddiad mwyaf oedd Prosiect Llai yn Galeri, Caernarfon, lle daeth hyd at 250 o bobl i gymryd rhan mewn gweithdai ffasiwn araf, caffi trwsio, a marchnad Vinted. Roedd y digwyddiad yn enghraifft berffaith o sut mae’r economi gylchol yn gallu dod yn fyw mewn ffordd ysbrydoledig a hygyrch.
Ymhlith y gweithgareddau eraill roedd:
- Glanhau traethau gyda disgyblion ysgolion yn Rhosneigr a Chaergybi, mewn partneriaeth â Relic Plastic – gan gynnwys gweithdai ailgylchu plastig lle bu plant yn creu clipiau carabiner eu hunain.
- Gweithdai amrywiol mewn gofodau Ffiws ar draws Gwynedd a Môn, gan gynnwys Tanio Bermo, Blaenau Ffestiniog, Botwnnog, Dolgellau, a llawer mwy.
- Gwerthiant Kilo yn Llangefni – yn hyrwyddo ffasiwn ail-law a chynaliadwy.
Effaith yr ymgyrch
Roedd ymgyrch Mis Cylchol yn gyfle i uno gofodau Ffiws, ysgolion, prosiectau cymunedol a phartneriaid lleol o dan un faner gylchol. Trwy ddefnyddio’r un posteri, brandio, a negeseuon, roedd yn glir fod pawb yn rhan o’r un ymgyrch – gan greu effaith weledol a chymunedol gref.
Dywedodd Elen Parry, Rheolwr Prosiect Cylchol ym Menter Môn:
“Mae Mis Cylchol wedi dangos pa mor bwerus yw cydweithio lleol wrth hyrwyddo dulliau byw cynaliadwy. Mae’r ymateb gan gymunedau, ysgolion a phartneriaid wedi bod yn wych, ac mae’r prosiect Cylchol yn edrych ymlaen at adeiladu ar y momentwm hwn wrth symud ymlaen.”
Ein cenhadaeth yw cefnogi pobl Ynys Môn a Gwynedd i ddeall beth yw economi gylchol, creu cyfleoedd i bobl a busnesau gymryd rhan, a lledaenu’r gair y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr gyda’n gilydd.