Cefndir

Mae cenhedlaeth newydd o arbenigwyr morol yn cael eu cefnogi i adeiladu gyrfaoedd yn lleol, gan benodi dau o ogledd Cymru i raglen interniaeth cynllun ynni llanw Menter Môn, Morlais. Mae Amy Quaeck Evans o Borthmadog a Siôn D’Arcy o Fangor, wedi ymuno â’r tîm yn ddiweddar trwy’r rhaglen ‘Interniaid Dyfodol Morol’. Wedi’i ariannu gan Ystad y Goron, y nod yw rhoi cyfle i’r rhai sy’n awyddus i gael gyrfa yn y maes i fagu profiad ymarferol a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y sector forol.

Mae sicrhau budd lleol yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer Morlais. Mae hynny yn golygu nid yn unig creu swyddi o safon yn y sector ynni adnewyddadwy, ond sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe gawson ni gyfle i holi un o’n interniaid i ddod i’w ‘nabod. Cymerwch olwg!

Pam wnes di ymgeisio am yr interniaeth?

“Rydw i newydd orffen fy ôl-radd Meistr mewn Cadwraeth a Rheoli Tir ym Mhrifysgol Bangor, a chyn hynny, ‘on i yng Nghaerdydd yn astudio Gwyddorau Bioleg. Ers ‘on i’n blentyn, dwi wedi bod â diddordeb yn y môr, natur a’r amgylchedd, felly roeddwn i eisiau cael mwy o brofiad ymarferol yn y maes. Oherwydd bod fi wedi astudio’r tir yn y brifysgol, roedd y cyfle i ddysgu mwy am y môr yn apelio yn fawr i mi, yn enwedig gan ei fod yn gyfle i mi weithio yn agos at adra.”

Beth yw diwrnod arferol i intern yma?

“Mae pob diwrnod yn wahanol – sy’n gret! Mae’r gwaith wedi mynd â fi i amryw o lefydd, gan gynnwys Caerdydd a Scarborough, a mi fyddai’n mynd i Lundain hefyd! Un o’r prif brosiectau dwi’n gweithio arno yw creu arolwg i gael barn pobl leol yn Ynys Môn a Phen Llŷn am ddatblygiadau ynni morol. Mae’n gyfle i ddeall be mae pobl yn ei feddwl go iawn, be sy’n bwysig iddyn nhw a pha gwestiynau sydd ganddyn nhw am y maes yn gyffredinol – dwi’n gweld hyn yn hynod o ddiddorol! Mae gwaith hefyd yn cynnwys gwaith allanol, fel mynd ar draeth Llanddona, ymuno â grŵp cerdded i weld beth oedd o gwmpas a dysgu mwy am sut mae gwaith maes yn cael ei wneud.”

Oes na rywun yn y sector natur sy’n dy ysbrydoli?

“David Attenborough. Dwi wedi gwylio llawer o’i raglenni dros y blynyddoedd, a mae’r ffordd mae o’n codi ymwybyddiaeth am natur yn rhywbeth sy’n fy ysbrydoli. Ond hefyd, ers i mi ddechrau – mae pawb sy’n gweithio yma yn fy ysbrydoli. Mae pawb mor broffesiynol, yn barod i helpu ac yn gwneud gwaith arbennig dros fyd natur o’n cwmpas.”

Pa mor bwysig i ti yw cael rôl ble ti’n denfyddio dy Gymraeg?

“Mae’n rili bwysig ac yn hollol wych! Prin ydy’r cyfleoedd yn y maes sydd drwy gyfrwng y Gymraeg – hyd yn oed yng Nghaerdydd, roedd llawer o’r cyfleoedd a’r darlithoedd yn Saesneg. Mae cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, mewn cyd-destun proffesiynol ac academaidd, yn rhywbeth arbennig iawn.”

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth berson arall sy’n ystyried gwneud cais ar gyfer flwyddyn nessa?

“Ewch amdani! Dwi wirioneddol yn mwynhau’r interniaeth. Mae’n rhoi cyfle i gael amrywiaeth o brofiadau, datblygu sgiliau newydd a chael gwell dealltwriaeth o’r sector cadwraeth a morol. Os wyt ti fel fi a ddim efo llawer o brofiad gwaith, mae’n ffordd ffantastig o ddechrau arni. Mae gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith hefyd yn bwysig iawn. Os oes gen ti ddiddordeb, go for it! Be ti’n gobeithio fydd y cam nesaf i ti? Dwi ddim yn hollol siŵr eto, ond dwi eisiau parhau i gael amrywiaeth o brofiadau a chymryd y cam nesaf yn y maes. Dwi’n edrych ymlaen at weld lle fydd y profiad yma yn mynd â fi.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233