Mae tenantiaethau rithiol ar gael gyda Menter Môn yn Neuadd y Dref Llangefni, ac yn cynnig cyfeiriad busnes proffesiynol yng nghanol Llangefni, heb fod angen swyddfa barhaol.
Mae’n opsiwn i bobl sy’n rhedeg busnes o’u cartref, yn dechrau menter newydd neu’n awyddus i sefydlu presenoldeb ar yr ynys. Mae’n gyfle arbennig o ddefnyddiol hefyd i bobl hunangyflogedig, busnesau bach a gweithwyr llawrydd sydd am gael cyfeiriad busnes lleol heb orfod defnyddio eu cyfeiriad cartref.
Gan ei fod wedi’i leoli mewn canolfan fusnes Gymreig, lleol a chymunedol, gall tenantiaid elwa yn ogystal ar gysylltiadau â rhwydwaith ehangach Menter Môn a’r gefnogaeth fusnes sydd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd tenantiaeth rithiol, neu i drafod a fyddai’n addas i’ch busnes chi, cysylltwch â Menter Môn.