Trwy gydol mis Medi, mae un o gynlluniau Menter Môn yn cynnal ‘Mis Cylchol’ sy’n annog pobl Gwynedd a Môn i wneud newidiadau bach ymarferol fydd yn rhoi hwb i’r economi gylchol. O drwsio dodrefn, gemwaith neu ddillad, i greu ottoman allan o hen boteli, y nod yw annog ail ddefnyddio ac ailgylchu

 

Yn ystod y mis, bydd dros 70 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y ddwy sir, gan roi cyfle i blant a phobl o bob oed ddysgu sgil newydd a gwneud y mwyaf o’r hyn sydd ganddynt.

 

Mae Cylchol hefyd yn ariannu gofodau gwneud Ffiws ar draws Gwynedd a Môn wedi eu sefydlu er mwyn cynnig gweithgareddau cyson i annog trwsio ac ail-ddefnyddio yn hytrach na phrynu o’r newydd.

 

Yn ôl Elen Parry, Rheolwr Prosiect Cylchol: “Trwy gydol mis Medi, byddwn yn cynnal amryw o ddigwyddiadau er mwyn dangos sut y gall pobl a busnesau yn ein cymunedau leihau gwastraff, trwsio’r hyn sydd ganddyn nhw’n barod a gwneud y mwyaf o adnoddau lleol.

 

“Mae hefyd yn cyd-redeg gyda Mis Medi Ail-law, Wythnos Ailgylchu a Wythnos Ffasiwn Gynaliadwy – sydd oll yn cyd-fynd gydag ethos cynllun Cylchol.

 

“O gyrsiau clytwaith a digwyddiad ffasiwn araf, i lanhau traethau a gweithdai gwneud sglefrfyrddau, mae na rhywbeth at ddant pawb yn ystod y mis.”

 

Un o’r canolfannau Ffiws fydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y mis ydy GISDA Caernarfon.  Yn ôl Lynwen Hughes, Cydlynydd Gofod Ffiws GISDA: “Mi yda ni’n falch iawn o’r gofod yma. Mae’n rhoi cyfle i ni gynnal gweithdai creadigol trwy gydol y flwyddyn i griw GISDA a’r gymuned yn ehangach.

 

“Ac yn ystod mis Medi, mae yna nifer o weithdai ymlaen, gan gynnwys gwnïo bag tote allan o ddefnyddiau ail-law ac ailgylchu caniau bwyd i greu daliwr pensiliau.

 

“Mi fydd yna gyfres o weithdai hefyd dros bedair wythnos, yn cychwyn efo argraffu sgrîn ar ddillad ail-law, ac yna ychwanegu at y dyluniad gyda gwaith llaw fel brodwaith a sashiko.

 

“Bydd y dillad gorffenedig yn cael eu dangos mewn digwyddiad ffasiwn araf Cylchol, wedi ei drefnu gan Llai, yn Galeri ar y 5ed o Hydref.”

 

Mae rhestr llawn o’r digwyddiadau a gwybodaeth bellach am gynllun Cylchol, ar gael yn  mentermon.com/cylchol.

 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Ymholiadau am y cynllun – Elen Parry, Menter Môn, cylchol@mentermon.com  / 07535 313337


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233