Cafodd dros 150 o fyfyrwyr  Blwyddyn 11 o ysgolion uwchradd Ynys Môn groeso gan Menter Môn Morlais yn ei Is-orsaf ger Caergybi yr wythnos hon. Nod y digwyddiad oedd yn cael ei gynnal am y tro cyntaf,  oedd ysbrydoli pobl ifanc i edrych ar gyfleoedd gyrfa mewn ynni adnewyddadwy, diwydiannau carbon isel, a’r economi werdd yn ehangach.

Yn ystod yr achlysur roedd y bobl ifanc yn cael cymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol a siarad yn uniongyrchol â busnesau lleol am y swyddi a gyrfaoedd sydd ar gael mewn sectorau sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd. Roedd hefyd yn gyfle i gyflogwyr hyrwyddo eu gwaith a’r camau maen nhw yn eu cymryd yn amgylcheddol ac i ddatblygu talent y dyfodol.

Dywedodd Gruff Parry, myfyriwr Blwyddyn 12 o Ysgol Gyfun Llangefni a helpodd lunio’r digwyddiad yn ystod ei leoliad gwaith gyda Morlais y llynedd: “Fe ges i brofiad gwych. Rhoddodd ddarlun clir i mi o’r sector ynni llanw a’r mathau o yrfaoedd sydd ar gael yma ar Ynys Môn. Rydw i’n gobeithio y bydd heddiw yn gwneud myfyrwyr eraill yr un mor gyffrous am yrfaoedd gwyrdd a fi.”

Soniodd Fiona Parry, Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant ym Menter Môn Morlais, am bwysigrwydd paratoi’r genhedlaeth nesaf ar gyfer dyfodol carbon isel: “Mae digwyddiadau fel Gorwelion Gwyrdd yn hanfodol wrth ddangos i bobl ifanc bod gyrfaoedd cynaliadwy yn bosibl yma yng ngogledd Cymru a’u bod nhw hefyd yn gyffrous. Rydyn ni am i fyfyrwyr adael y digwyddiad wedi’u hysbrydoli ac yn deall mwy am y cyfleoedd sydd o’u blaenau ac yn meddwl am yrfa gyda chynlluniau fel Morlais ar Ynys Môn.

“Mae sicrhau budd lleol, gan gynnwys swyddi a datblygu hyfforddiant, wedi bod yn rhan pwysig o’r prosiect yma ers y cychwyn. Mae heddiw yn dangos ein bod yr un mor bendant ag erioed i wireddu’r weledigaeth honno.”

Drwy gydol y dydd, roedd myfyrwyr yn cael ymgysylltu ag arbenigwyr yn y diwydiant, ymweld â stondinau rhyngweithiol, a dysgu am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael mewn ynni adnewyddadwy. Drwy gysylltu pobl ifanc â busnesau lleol, mae Fiona a’r tîm am ennyn diddordeb mewn sectorau cynaliadwy ac amlygu’r cyfleoedd o fewn yr economi werdd yn lleol.

Roedd partneriaid a noddwyr Gorwelion Gwyrdd yn cynnwys Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, Gyrfa Cymru, Ystad y Goron, a Jones Bros Civil Engineering UK.

Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfaoedd Cymru, a fynychodd y digwyddiad: “Roedden ni yn falch iawn o gefnogi Morlais gyda’r digwyddiad yma. Mae mor bwysig i bobl ifanc gael y cyfle weld y cyfleoedd cynyddol sy’n bodoli ym y maes cynaliadwyedd a sgiliau gwyrdd.

“Mae digwyddiadau gyrfaoedd fel hyn yn cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr yn eu hardal nhw, yn ehangu gorwelion ac yn codi hymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael.”

Roedd y digwyddiad wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’i gefnogi gan Cyngor Sir Ynys Môn.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233